Noswaith diolch i wirfoddolwyr Caru Eryri 2023

Noswaith diolch i wirfoddolwyr Caru Eryri 2023

Y Fricsan, Cwm y Glo, 18:00 – 21:00

Gwirfoddolwyr Caru Eryri 2023 – ymunwch â ni i ddathlu llwyddiannau’r haf dros pizza!

Byddwn yn gwneud ein pizzas ein hunain o dan arweiniad yr arbenigwyr yn Becws Y Fricsan a byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â ni am noson o fwyd a sgwrsio!

Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar My Impact, anfonwch e-bost at jen@snowdonia-society.org.uk os oes gennych unrhyw alergeddau neu ofynion dietegol.

Bydd pizza, te a choffi am ddim ar y noson a diodydd eraill ar gael i prynu.

Byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno!