Caru Eryri: Cynnal Llwybr Watkin, Yr Wyddfa

Caru Eryri: Cynnal Llwybr Watkin, Yr Wyddfa

09:00 – 15:00

Eleni rydym wedi penderfynu ymestyn y cynllun Caru Eryri i gynnwys gwaith cynnal a chadw llwybrau.

Yn gweithio efo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol byddem yn rhedeg dyddiau cynnal a chadw llwybr troed ar y cyd ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis rhwng Ebrill a Hydref.

Nid yn unig y mae’r dyddiau hyn yn cyfrannu at fynediad parhaus i ddyffrynnoedd a mynyddoedd hardd yr ardal ond maent hefyd yn gyfle i amsugno arbenigedd a gwybodaeth Tîm Llwybr Troed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gweithio arnynt.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.