Caru Eryri: Cynnal Llwybr Llanberis, Yr Wyddfa

Caru Eryri: Cynnal Llwybr Llanberis, Yr Wyddfa

09:00 – 15:00

Eleni rydym wedi penderfynu ymestyn y cynllun Caru Eryri i gynnwys gwaith cynnal a chadw llwybrau.

Mae llawer o ymwelwyr a tywydd garw yn golygu bod bob amser waith cynnal a chadw i’w wneud ar lwybrau’r Wyddfa. Felly dewch i’n helpu ni i gadw’r llwybrau troed mewn cyflwr da a mwynhau diwrnod allan yn y mynyddoedd.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.