Caru Eryri: Cynnal llwybrau, Beddgelert
10:00 – 15:00
Eleni rydym wedi penderfynu ymestyn y cynllun Caru Eryri i gynnwys gwaith cynnal a chadw llwybrau.
Mae llawer o ymwelwyr a’r amodau tywydd garw yn golygu bod gwaith i’w wneud bob amser ar lwybrau Eryri.
Os ydych chi’n hoffi cerdded mynyddoedd a rhoi cynnig ar helpu, dyma’r diwrnod i chi!
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.
Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.