Caru Eryri: Cynnal a chadw llwybrau

Caru Eryri: Cynnal a chadw llwybrau

09:00 – 15:00, Llwybr Llanberis, Yr Wyddfa

Mae llawer o ymwelwyr a’r amodau tywydd garw yn golygu bod gwaith i’w wneud bob amser ar lwybrau Eryri.​​

Os ydych chi’n hoffi cerdded mynyddoedd a rhoi cynnig ar helpu, dyma’r diwrnod i chi!

Lefel ffitrwydd – heriol

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.