Caru Eryri: Llwybr Watkin, Llyn Gwynant
09:00 – 15:00
Mae pyllau a rhaeadrau llwybr Watkin yr Wyddfa yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr a phobl lleol.
Ymunwch a thîm Caru Eryri wrth i ni reoli’r sbwriel ar ledrau isaf y llwybr yn nyffryn Gwynant.
Lefel ffitrwydd – Cymedrol
Nid yw gyrru yn rhan ofynnol o’r gweithgaredd.
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.
Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.