Caru Eryri: Nant Peris + Capel Curig
09:00 – 15:00
Gellir dadlau bod rhai o’r golygfeydd gorau o’r Wyddfa i’w gweld o Capel Curig.
Ymunwch a thîm Caru Eryri wrth i ni reoli sbwriel a chefnogi’r gymuned leol drwy darparu gwybodaeth ac arweiniad i ymwelwyr.
Lefel ffitrwydd – Gweddol
Mae gyrru yn rhan ofynnol o’r gweithgaredd.
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.
Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.