Caru Eryri: Llyn Dinas, Aberglaslyn

Caru Eryri: Llyn Dinas, Aberglaslyn

09:00 – 15:00

Dewch i helpu i ofalu am yr Wyddfa!

Wrth i fwy a mwy o bobl ddod i droedio ei llethrau y gwanwyn hwn, byddwn yn cynghori ymwelwyr sut i fod yn ddiogel a mwynhau’r mynydd mewn modd parchus. Byddwn yn cerdded a mwynhau llwybrau braf o gwmpas Beddgelert; wrth gerdded, byddwn yn codi sbwriel i sicrhau ein bod yn cynnal ei harddwch naturiol.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.