Taith canŵ – Darganfod yr Aber Dwyryd *llawn*

Taith canŵ – Darganfod yr Aber Dwyryd

Aber Dwyryd, 10:45 – 15:45

Ymunwch â ni am daith canŵ ar hyd aber y Ddwyryd.

Ar y ffordd byddwn yn trafod y mannau yr awn heibio iddynt, o gynefin arbennig coedwig law chwedlonol Felenrhyd a’r gwaith cadwraeth ystlumod yr hen ffatri ffrwydron Gwaith Powdwr, i weddillion porthladdoedd y diwydiant llechi. Efallai os ydyn nhw’n ôl, fe welwn ni weilch y pysgod ynghyd ag adar eraill yn bwydo yn yr aber ac o’i chwmpas. Cyfle unigryw i brofi ac archwilio’r rhan hon o Eryri o bersbectif gwahanol.

Arweinydd y daith dywys hon yw Anita Daimond, Antur Natur. Bydd canŵod a chyfarwyddyd yn cael eu darparu ganddi hi a Dave Kohn-Hollins. Mae’r daith yn addas ar gyfer pobl weddol weithgar a allai fod wedi gwneud rhywfaint o gaiacio neu ganŵio o’r blaen neu beidio. Gall pobl ifanc 14-17 oed ymuno â ni os oes rhiant/gwarcheidwad gyda phob un. Sylwch y byddwn yn trefnu gwennol cerbyd i alluogi taith un ffordd.

Byddwch angen gwisgo dillad cynnes a chot a throwsus glaw. Fedrwch wisgo wellies neu esgidiau eraill fedrith gwlychu. Dowch a diod a phecyn bwyd. Hefyd dowch a dillad a sgidiau sbâr i newid i mewn i wedyn – jest rhag ofn ‘dach hi’n gwlychu.

Lefel ffitrwydd – Cymhedrol

Am ddim – Blaendal £10 bydd yn cael ei ad dalu ar ol mynychu.

Os oes gennych unrhyw cwestiynau, cysylltwch â jen@snowdonia-society.org.uk.

Gyda diolch i Raglen Cronfa Grant Cymunedol y Grid Cenedlaethol.