Cadwraeth Gwarchodfa (YN LLAWN)

Cadwraeth Gwarchodfa, Conwy

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Mae Gwarchodfa Natur Pensychnant yn hafan i fywyd gwyllt ac yn fferm weithredol hefyd. Mae ei warden gwybodus wedi ei gwarchod am flynyddoedd lawer ac mae Cymdeithas Eryri wedi bod yn fodlon iawn cynorthwyo o dro i dro. Mae calendr arferol Pensychnant wedi gorfod cael ei ohirio ers dechrau’r pandemig coronafirws, felly dyma gyfle anghyffredin i ymweld a chynnig cymorth.

Prif orchwyl heddiw yw trwsio ffens – gwaith ymarferol a gwerth chweil. Does dim angen profiad.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg coronafeirws i’n galluogi i roi’r orchwyl hwn ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, rydym wedi cyfyngu ar y nifer o wirfoddolwyr ar y diwrnod hwn. Cofiwch archebu’n fuan rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch a Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091