Brwydro Jac Y Neidiwr

Brwydro Jac Y Neidiwr, Penmachno

Archebu lle yn hanfodol

Helpwch ni ddod i afael ar yr ymosodwr pinc hwn!

Rydym ni’n datblygu ein gwaith clirio Jac y Neidiwr yn dilyn ein llwyddiant yn y Bala. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau eu bod yn meithrin y profiad a’r wybodaeth ynghylch sut i reoli’r planhigyn ymledol hwn yn eu hardaloedd lleol.

Ar gyfer y gweithgaredd hwn byddwn yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ystâd Ysbyty Ifan yn Fferm Carrog, safle sydd wedi ei thrawsnewid yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae Jac Y Neidiwr yn blanhigyn ymledol, estron sydd yn mygu planhigion eraill sydd yn arwain at golled planhigion cynhenid. Mae hefyd yn arwain at erydu ochrau afonydd.

Ymunwch a ni i fynd i afael ar y broblem hwn a dysgu mwy am y rhywogaeth ymledol hon.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498