Brwydro Jac Y Neidiwr, Llanberis
Archebu lle yn hanfodol
Ymunwch a ni ar gyrion y parc gyda golygfeydd gwych tuag at gopa’r Wyddfa.
Rydym ni’n datblygu ein gwaith clirio Ffromlys Chwarennog llwyddiannus yn y Bala i gydweithio â chymunedau lleol i sicrhau eu bod yn meithrin y profiad a’r wybodaeth ynghylch sut i reoli’r planhigyn ymledol hwn yn eu hardaloedd lleol.
Mae Jac Y Neidiwr yn blanhigyn ymledol, estron. Bydd clystyrau trwchus ohono yn mygu planhigion eraill, gan wthio allan y cymunedau o blanhigion cynhenid, and phan fydd yn cilio yn y gaeaf, bydd yn gadael glannau afonydd gwag sy’n fwy tebygol o gael eu herydu.
Helpwch ni ddod i afael ar yr ymosodwr pinc hwn!
Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498