Brwydro Jac Y Neidiwr

Brwydro Jac Y Neidiwr

Archebu lle yn hanfodol,

Mae Jac Y Neidiwr yn blanhigyn ymledol, estron. Bydd clystyrau trwchus ohono yn mygu planhigion eraill, gan wthio allan y cymunedau o blanhigion cynhenid, and phan fydd yn cilio yn y gaeaf, bydd yn gadael glannau afonydd gwag sy’n fwy tebygol o gael eu herydu. Rydym wedi bod yn gweithio gydag APCE yn ystod blynyddoedd diweddar fel rhan o raglen lwyddiannus iawn i reoli’r planhigyn hwn, sy’n golygu fod y planhigyn wedi diflannu o rai mannau ble’r oedd yn bla yn flaenorol. Byddwn yn tynnu’r planhigyn hwn â’n dwylo (mae’n hawdd iawn ei lacio) ac yn targedu’r llednentydd sy’n bwydo Llyn Tegid.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498