Taith Weirglodd: Cae’r Ddôl gyda Robbie Blackhall-Miles

Taith Weirglodd: Cae’r Ddôl gyda Robbie Blackhall-Miles

*LLAWN*

Saif Cae’r Ddôl ar lan de orllewinol ac yng ngorlifdir Llyn Padarn ym mhentref boblogaidd a phrysur Llanberis, yng ngogledd Cymru. Oddi yma ceir un o’r golygfeydd godidocaf o Eryri heibio Castell Dolbadarn.

Wrth droi eich golygon oddi ar y mynyddoedd at eich traed byddwch yn gweld blodau gwyllt hardd o bob lliw a llun. Ymunwch â’r botanegydd brwdfrydig Robbie am gyflwyniad i’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol hwn a’r grŵp cymunedol sy’n sicrhau ei fod yn ffynnu.

Rhaid archebu ymlaen llaw. E-bostiwch: claire@snowdonia-society.org.uk i archebu eich lle. Am ddim i aelodau Cymdeithas Eryri, neu £10 i’r rhai nad ydyn nhw’n aelodau.