Arolygu Cyflwr Llwybr Llechi Eryri

Arolygu Cyflwr Llwybr Llechi Eryri, Capel Curig

Archebu lle yn hanfodol,

“Dyma lwybr cylchog 83-milltir o hyd sy’n caniatáu i gerddwyr archwilio treftadaeth ddiwydiannol pentrefi llechi ledled Eryri. Mae’r llwybr hwn yn eich tywys i rai o fannau mwy distaw ond hardd Eryri, drwy’r holl brif fynyddoedd, gan gynnig ystod o brofiadau o’r mynydd i’r goedwig, o’r llyn i’r afon, o’r cwm i’r môr.”
“Llwybr Llechi Eryri. Ar gyfer y diwrnod gwirfoddoli arbennig hwn byddwn yn arolygu ac yn cynnal darn 4km o lwybr rhwng Capel Curig a’n Tŷ Hyll ni. Mae yma olygfeydd godidog yn y bryniau uwchben yr A5 gyda chymysgedd o ffermdir, ucheldir a choedlannau. Ymysg y gorchwylion bydd arolygu a chynnal y llwybrau, giatiau, camfeydd a physt nodi. Ymunwch â ni am flas o Lwybr Llechi Eryri.”

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498