*WEDI EI GOHIRIO* Arolwg Monitro Planhigion

Arolwg Monitro Planhigion, Nant Gwynant

Archebu lle yn hanfodol

Yn 2019 cofrestrwyd y Gymdeithas gyda Chynllun Cenedlaethol Monitro Planhigion a sicrhaodd sgwâr 1km yn nyffryn hardd Nant Gwynant. Pwrpas y monitro hwn yw monitro newid yn y dirwedd dros amser drwy edrych ar y newid yn y fath o blanhigion sydd yw gweld yno.

Dewch i’n helpu i fonitro ein sgwâr a dysgu sut mae’r cynllun hwn yn helpu i gofnodi newidiadau ym mhlanhigion gwledydd Prydain. Ymysg ein cynefinoedd mae coedlan lydanddail, rhostir, cors a rhostir llaith yn ogystal â gwellt, felly mae yno ddigon o amrywiaeth yw gweld.

Os yw ein planhigion cenedlaethol yn bwysig i chi fel y maen nhw’n bwysig i ni, yna dyma’r cyfle perffaith i chi gymryd rhan. Bydd arweiniad ar gael i’ch helpu i adnabod y rhywogaethau angenrheidiol, ond cofiwch ddod â’ch taflenni\llyfrau eich hun os hoffech wneud nodiadau.

Nid oes angen i chi fod yn botanegydd (ond mae croeso i chi ddod os ydach chi) i gymrhyd rhan yn y diwrnod hwn, mae’r diwrnod yn addasi pob lefel.

O ganlyniad i ymlediad (Covid-19), y coronafeirws, gobeithiwn y byddwch yn deall y bydd o bosib yn rhaid canslo neu newid trefniadau ar fyr rybudd. Bydd ein staff yn gwneud pob ymdrech i adael i bawb sydd wedi archebu lle ar ddigwyddiad wybod. Cofiwch wirio beth ydy statws y digwyddiad ymlaen llaw drwy ffonio neu ebostio

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
07534244518