Arolwg Llwybr Llechi Eryri

Arolwg Llwybr Llechi Eryri

Archebu lle yn hanfodol,

“Llwybr cylch 83-milltir yw hwn sy’n galluogi cerddwyr i ddysgu mwy am dreftadaeth diwydiannol pentrefi llechi ledled Eryri.  Mae’r llwybr hwn yn eich tywys drwy rai o ardaloedd harddaf ond mwyaf distaw Eryri, heibio prif gribau’r mynyddoedd, ac yn cynnig ystod o brofiadau o’r mynydd i’r goedwig, o’r llyn i’r afon ac o’r cwm i’r môr.” Llwybr Llechi Eryri.

Yn ystod y dyddiau yma i wirfoddolwyr byddwn yn arolygu ac yn gweithio ar ddarn 8km rhwng Capel Curig a Betws-y-coed. Ceir rhai golygfeydd hyfryd yn y bryniau uwchben yr A5 gyda chymysgedd o ffermdir, ucheldir a choedlannau. Ar hyd y llwybr cewch fwynhau golygfeydd gwych o’r afon Llugwy dros Raeadr Ewynnol. Bydd y gorchwylion yn cynnwys yr arolwg a chynnal a chadw’r llwybr, giatiau, camfeydd ac arwyddion. Ymunwch â ni am flas bach o Lwybr Llechi Eryri.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498