Arolwg Llwybr Llechi Eryri
Archebu lle yn hanfodol,
Ar gyfer yr diwrnod hon byddwn yn arolygu ac yn cynnal rhan Rhyd Ddu o’r llwybr. Ceir rhai golygfeydd hyfryd yn y bryniau gan gynnwys Yr Wyddfa a Llyn Cwellyn. Bydd y gorchwylion yn cynnwys yr arolwg a chynnal a chadw’r llwybr, giatiau, camfeydd ac arwyddion. Ymunwch â ni am flas bach o Lwybr Llechi Eryri. “Llwybr cylch 83-milltir yw hwn sy’n galluogi cerddwyr i ddysgu mwy am dreftadaeth diwydiannol pentrefi llechi ledled Eryri. Mae’r llwybr hwn yn eich tywys drwy rai o ardaloedd harddaf ond mwyaf distaw Eryri, heibio prif gribau’r mynyddoedd, ac yn cynnig ystod o brofiadau o’r mynydd i’r goedwig, o’r llyn i’r afon ac o’r cwm i’r môr.” Llwybr Llechi Eryri.
Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498498