Arolwg Cynllyn Monitro Planhigion Cenedlaethol
Archebu lle yn hanfodol,
Rydym wedi cofrestru gyda Chynllun Cenedlaethol Monitro Planhigion ac wedi sicrhau sgwâr 1km yn nyffryn hardd Nant Gwynant. Dewch i’n helpu i fonitro ein sgŵar a dysgu sut mae’r cynllun hwn yn helpu i gofnodi newidiadau ym mhlanhigion gwledydd Prydain. Ymysg ein cynefinoedd mae coedlan llydanddail, rhostir, cors a rhostir llaith yn ogystal â gwelltir. Os yw ein planhigion cenedlaethol yn bwysig i chi fel y maen nhw’n bwysig i ni, yna dyma’r cyfle perffaith i chi gymryd rhan. Bydd arweiniad ar gael i’ch helpu i adnabod y rhywogaethau angenrheidiol, ond cofiwch ddod â’ch taflenni\llyfrau eich hun os hoffech wneud nodiadau.
Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498498