Adeiladu Llwybr

Adeiladu Llwybr: Llwybr Llechi, Llan Ffestiniog

Archebu lle yn hanfodol

Mae’r Llwybr Llechi yn “lwybr cylchog 83-milltir o hyd sy’n caniatáu i gerddwyr archwilio treftadaeth ddiwydiannol pentrefi llechi ledled Eryri. Mae’r llwybr hwn yn eich tywys i rai o fannau mwy distaw ond hardd Eryri, drwy’r holl brif fynyddoedd, gan gynnig ystod o brofiadau o’r mynydd i’r goedwig, o’r llyn i’r afon, o’r cwm i’r môr.”

Y llynedd cychwynnodd y gymdeithas ar brosiect i wella rhan o’r llwybr hardd hwn y tu allan i bentref Llan Ffestiniog. Roedd y prosiect yn cynnwys gosod carreg gyda chymorth tîm Llwybr Troed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amlygwyd ein gwaith ar raglen Countryfile ar y BBC!

Ymunwch â ni ar ddechrau’r flwyddyn wrth i ni fynd ati i barhau â’r rhan hon o’r llwybr yn y rhan wyllt hon o Eryri.

Os ydych yn wirfoddolwr profiadol neu erioed wedi gwirfoddoli o’r blaen, mae’r diwrnod hwn yn gyfle perffaith i ddysgu medrau newydd, i gyfarfod pobl â’r un diddordeb ac i roi rhywbeth yn ôl i Eryri. Os ydych chi’n hoffi cael eich dwylo’n fudr dyma’r diwrnod i chi!

Cysylltwch Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498