*WEDI EI GOHIRIO* Rheolaeth Gwlyptir

*WEDI EI GOHIRIO* Rheolaeth Gwlyptir, Betws y Coed

Archebu lle yn hanfodol

Gwarchodfa natur, sydd yng ngofal Ymddiriedolaeth Fywyd Gwyllt Gogledd Cymru, yw Cors Bodgynydd a saif yng nghanol Nghoedwig Gwydir. Mae hi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SddGA), sy’n cynnwys nentydd dŵr agored, gwlyptir, gwelltir asidig a rhostir. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i ofalu am y safle hardd hwn a dysgu mwy am y bywyd gwyllt a gynhelir, dewch i’n helpu ar 1 Ebrill. Er mwyn cynnal cynefin y gors, bydd warden yr Ymddiriedolaeth Fywyd Gwyllt yn ymuno â ni i glirio coed coniffer a choed bedw sydd wedi adfer eu hunain.

Cofiwch ddod â’ch Wellingtons!

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07901 086850