Enillir rhai brwydau…

Mae penderfyniadau diweddar yn amlygu’r angen am amddiffyniadau cyson a chryf ym mhob cam o’r system cynllunio, wrth i’r pwysau i ddatblygu fygwth rhinweddau arbennig Eryri.

Rydym ni’n croesawu penderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i wrthod caniatâd cynllunio i ddatblygu cynllun ynni dŵr yng Nghwm Cynfal. 

Byddai’r cynllun ynni dŵr arfaethedig wedi niweidio Cwm Cynfal ger Llan Ffestiniog, wedi effeithio ar yr ecoleg mewn rhan o Afon Cynfal sy’n mesur o leiaf 1.2km, ac wedi darwagio Rhaeadr hyfryd y Cwm yn ddifrifol (trowch at https://www.snowdonia-society.org.uk/a-bridge-too-far/). Fe wnaethom ni fynegi ein gwrthwynebiad mor gryf ag y gallem a rhybuddio eraill am y cynnig.  Mae ein llythyr gwrthwynebu ar gael yma:  Cwm Cynfal hydro NP5 59 495A.   Mae’r penderfyniad hwn yn newyddion i’w croesawu, ond rydym yn credu y bydd y cais yn dychwelyd am un cynnig arall cyn i’r cyfle presennol i gael cymhorthdal ddod i ben ym mis Mawrth.

  a chollir rhai

Mewn cyferbyniad llwyr, rydym ni wedi’n drysu gan y penderfyniad i roi caniatâd cynllunio i’r uned ddofednod gyntaf ar raddfa ddiwydiannol yn y Parc Cenedlaethol.

Mae Pwyllgor Cynllunio’r Parc Cenedlaethol wedi rhoi caniatâd i adeiladu uned cynhyrchu wyau enfawr a gaiff ei hadeiladu yn rhan ddeheuol y Parc Cenedlaethol ger Llanegryn. Bydd yn agos at dai a bydd wedi’i lleoli o fewn 50m o heneb gofrestredig Castell-Mawr.  Bydd hyd y ffatri yn fwy na 430 troedfedd a bydd yn cynnwys 32,000 o adar ac yn cynhyrchu dros 17 tunnell fetrig o wastraff nitrogen bob blwyddyn. Caiff hynny ei chwalu yn yr ardal leol, o fewn dalgylch SoDdGA Aber Dysynni.

Mae unedau cynhyrchu bwyd ar raddfa ddiwydiannol yn hollol wahanol i’r amaethu traddodiadol sydd wedi llunio Eryri.  Gall eu hallbynnau fod yn fygythiadau difrifol i’r amgylchedd, ac fel dull dwys o ddefnyddio tir, ni fyddent yn llwyddo i gyflawni’r mwyafrif o fesurau ynghylch cynaliadwyedd amgylcheddol.  Gallai’r risgiau a ddaw yn eu sgil fod yn rhai difrifol ar ffurf achosion o lygru, neu’n rhai hirbarhaol a helaeth, ar ffurf llygredd gwasgaredig yn yr aer ac mewn dŵr daear, ar hyd a lled dalgylch.

Mae’r Parc Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn rhannu’r cyfrifoldeb am y penderfyniad hwn. Bellach, dylai’r ddau gorff ystyried sut mae’r penderfyniad hwn yn llwyddo i gynnal dibenion statudol y Parc Cenedlaethol. Efallai mai’r testun pryder pennaf yw’r ffaith y gwnaeth Llywodraeth Cymru ddyfarnu nad oedd angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol y cynllun.  Mae nifer o ddiffygion difrifol yn nogfen sgrinio Llywodraeth Cymru, ac un o’r rhai gwaethaf yw’r honiad nad yw’r datblygiad ‘… mewn lleoliad sy’n neilltuol o amgylcheddol sensitif nac yn neilltuol o agored i niwed amgylcheddol, ac nid yw’n debygol o achosi effeithiau amgylcheddol anarferol o gymhleth neu rai a allai fod yn niweidiol.’   Yn ein barn ni, nid oedd gan Lywodraeth Cymru’r dystiolaeth i gyfiawnhau’r penderfyniad a wnaeth.

 

Comments are closed.