Mesurau Parcio Brys ar gyfer yr Wyddfa

Mesurau Parcio Brys ar gyfer yr Wyddfa

Awdurdodau yn dod ynghyd i weithredu mesurau parcio brys

Yn dilyn nifer o enghreifftiau o barcio anghyfrifol yn ardal Pen-y-pas yn Eryri y penwythnos diwethaf, mae awdurdodau’n cydweithio i weithredu mesurau brys i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Mae Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri a Heddlu Gogledd Cymru wedi cytuno ar ddull ar y cyd ar gyfer yr wythnosau nesaf i sicrhau bod modurwyr yn parcio’n gyfrifol. O ddydd Sadwrn 25 Gorffenaf, bydd gwasanaeth bws Sherpa sy’n cysylltu prif feysydd parcio’r ardal gyda’r gwahanol lwybrau copa’r Wyddfa yn rhedeg bob 15 munud rhwng 6.45am a 6.40pm a gofynnir i gerddwyr ddefnyddio’r gwasanaeth i gael mynediad i Ben-y-pas.

Bydd staff o Gyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri a Heddlu Gogledd Cymru ar ddyletswydd yn yr ardal dros y penwythnos i atgoffa modurwyr o’u cyfrifoldeb. Mae arwyddion yn cael eu gosod i rybuddio modurwyr bod cerbydau y rhai sy’n torri’r rheolau yn debyg o gael eu cludo gan yr heddlu, a bydd conau hefyd yn cael eu gosod i atal parcio ar y briffordd.

Ar benwythnosau, bydd y maes parcio ym Mhen-y-pas yn safle gollwng ar gyfer bysiau a thacsis yn unig i atgyfnerthu’r neges y dylai cerddwyr barcio yn Llanberis a Nant Peris a defnyddio’r gwasanaethau bysiau Sherpa rheolaidd. Mae’n dilyn golygfeydd y penwythnos diwethaf lle roedd modurwyr anystyriol wedi parcio’n anghyfreithlon, gan rwystro un o’r prif ffyrdd wrth odre’r Wyddfa.

Meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Ein neges i bobl sy’n bwriadu ymweld ag Eryri yw cynllunio ymlaen llaw cyn iddynt gychwyn fel y gallant wneud hynny yn ddiogel ac yn gyfrifol.

“Rydym yn annog modurwyr i wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio sydd ar gael yn Nant Peris a Llanberis yn ogystal ag ym Mhen-y-gwryd gerllaw ac i wirio gwefan y Parc Cenedlaethol i gael y manylion diweddaraf am eu meysydd parcio.

“Mae cerddwyr yn cael eu hannog hefyd i ddefnyddio gwasanaeth bws Sherpa rheolaidd a fydd yn rhedeg bob 15 munud o 6.45am o ddydd Sadwrn ac sy’n cysylltu prif feysydd parcio gyda’r gwahanol lwybrau i’r copa. Bydd hyn yn ein helpu i reoli’r traffig ar y ffyrdd mynyddig cul ac osgoi sefyllfaoedd peryglus a welsom y penwythnos diwethaf.

“Y ffaith ydi, mae modurwyr fel y rhai a oedd wedi parcio’n anghyfreithlon ym Mhen-y-pas yn peryglu bywydau gyrwyr eraill, beicwyr a cherddwyr ac yn achosi problemau mynediad difrifol i gerbydau’r gwasanaethau brys, gan gynnwys gwirfoddolwyr achub mynydd.

“Rydym eisiau i bobl allu mwynhau ein mynyddoedd trawiadol yn ddiogel. Bydd y rhai sy’n anwybyddu’r neges drwy parcio’n anghyfreithlon ar y briffordd ar ffyrdd mynyddig Eryri yn wynebu dirwy yn y fan a’r lle neu hyd yn oed cludo eu cerbydau oddi yno gan yr heddlu.”

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Bydd y mesurau brys hyn yn help i daclo’r sialens tymor-byr a byddwn yn parhau i fonitro ac i addasu fel y mae pethau yn datblygu.

“Mae sefyllfa o’r fath yn cadarnhau’r angen brys i symud ymlaen ymhellach gyda’r gwaith partneriaeth presennol ar ddatblygu model trafnidiaeth cynaliadwy wedi ei seilio ar fodel alpaidd, sy’n cynnwys ail-feddwl yn radical y ffordd mae ymwelwyr a thrigolion yn profi’r ardal. Bydd yr adroddiad ar y gwaith yn cael ei gyhoeddi’n fuan.”

Linc: https://www.eryri.llyw.cymru/authority/news-and-media/latest-news/2020-press-releases/2020-news-items/a-joint-press-release-between-gwynedd-council,-snowdonia-national-park-authority-and-north-wales-police

Comments are closed.