Disgrifiad
Hadau er lles Gwenyn
Hadau blodau gwyllt brodorol ac amrywiadau gardd sy wedi eu dewis yn arbennig i ddenu gwenyn mêl a pheillwyr eraill, wedi eu casglu a phacio â llaw gan wirfoddolwyr Tŷ Hyll. Pob elw at ein gwaith yn Nhŷ Hyll.
Mae’r holl hadau ar y canllaw yn cael eu gwerthu yn Tŷ Hyll pan fo’r Cafi ar agor. Gweler ein Canllaw Hadau er lles Gwenyn i weld lluniau a gwybodaeth am amodau dyfu a chanllawiau hau.
DS: Byddwn yn gwneud ein gorau i farcio hadau os ydynt ‘allan o stoc’, ond os nad yw amrywiad ar gael, byddwn yn dewis un arall i fynd yn ei lle.