Gwirfoddoli i grwpiau

Os ydych chi’n gyflogwr, hyfforddwr, arweinydd grŵp neu ran o grŵp cymunedol sy’n chwilio am rywbeth gwahanol, gallwn lunio rhaglen wirfoddoli ar gyfer eich corff a’ch grŵp arbennig.

 E-bostiwch atom ni i drafod eich anghenion.

Gweithio mewn lleoliadau hyfryd

Ikram UK & Eire, Rhagfyr 2018

Rydym yn trefnu gweithdai cadwraeth ar gyfer grwpiau o wirfoddolwyr drwy gydol y flwyddyn, ledled Parc Cenedlaethol Eryri a gydag ystod o themâu. Fe all Cymdeithas Eryri gynnig dyddiau gwaith unigol neu luosog ar gyfer cyflawni gorchwylion yn amrywio o glirio eithin a chynnal llwybrau i godi cloddiau sych. Mae pob diwrnod gwaith yn digwydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn aml mewn partneriaeth gyda chyrff eraill, sy’n galluogi mynediad i bobl broffesiynol medrus a lleoliadau trawiadol.

 

 

20 mlynedd o brofiad

Gyda dros 20 mlynedd o brofiadmewn cynnal dyddiau gwaith gwirfoddol, mae gan Gymdeithas Eryri rwydwaith a phrofiad i wireddu cyfleoedd gwirfoddoli diogel a gwerthfawr sy’n helpu i warchod a gwella’r amgylchedd naturiol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Rydym wedi gweithio gyda Choleg Menai, Ysgol Eirias, IKRSM UK ac Eire, First Hydro, CAIS a grwpiau cymuned eraill i ddarparu profiad dysgu ac adeiladu-tîm newydd.

Rydym bob amser yn awyddus i greu partneriaethau newydd, a hoffem glywed oddi wrthych.

 E-bostiwch atom ni i drafod eich anghenion.