Mae gwaith ein gwirfoddolwyr yn rhan o’r rhwydwaith sy’n cynnal ein Parciau Cenedlaethol. Mae ein tîm o wirfoddolwyr ymroddedig yn cyfrannu at raglenni tymor hir o waith hanfodol: cynnal llwybrau, rheoli rhywogaethau o blanhigion ymledol, clirio sbwriel, a rheoli cynefinoedd er budd bywyd gwyllt. Er bod lleihau difrod yn elfen hanfodol, mae’n fwy na hynny. Mae llawer o’n gwaith yn cynnwys gwella’n ymarferol ac mae ein rhaglen hyfforddi yn helpu i ysbrydoli ac ychwanegu at wybodaeth pobl a’u gwerthfawrogiad o Eryri, ei threftadaeth, ei chynefinoedd a’i bywyd gwyllt.
Ers ffurfio Cymdeithas Eryri dros 50 mlynedd yn ôl mae ein rhaglen gadwraeth ymarferol wedi mynd o nerth i nerth. Bellach rydym yn cynnal sawl gweithgaredd bob wythnos ac yn galluogi cannoedd o bobl i gyfrannu miloedd o oriau o’u hamser tuag at warchod Eryri bob blwyddyn. Mae gwirfoddolwyr yn cael cyfle i roi rhywbeth yn ôl i Eryri yn ogystal ag archwilio a mwynhau rhai o ardaloedd harddaf a mwyaf arbennig y wlad. Hefyd, maen nhw’n magu profiad ymarferol, gwybodaeth, hyder ac ystod o fedrau sy’n hybu’r posibilrwydd iddyn nhw gael eu cyflogi.
Yn ddiweddar, rhoddwyd cydnabyddiaeth i’n rhaglen wirfoddoli Dwylo Diwyd gyda’r wobr Cryn Gymeradwyaeth yng Ngwobrau Gwarchod Parciau 2018 y Parciau Cenedlaethol.
Rydw i wedi cael profiad da iawn wrth wirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri, ynghyd â chyrff tebyg fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydw i wedi dysgu llawer o fedrau newydd ac wedi mwynhau cael profiadau newydd wrth dreulio dyddiau gyda’r tîm. Mae pawb yn wirioneddol groesawgar a chyfeillgar. Ymunais oherwydd roeddwn yn dymuno gwneud gwahaniaeth ond maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth i mi hefyd.
Mae gwirfoddoli i Gymdeithas Eryri wedi golygu mod i wedi treulio llawer o ddyddiau un ai yn ein cefn gwlad neu’n gweithio ar erddi Tŷ Hyll. Rydw i wedi dysgu llawer o fedrau newydd, o blannu coed a gwrychoedd i hau hadau blodau gwyllt. Rydw i’n edrych ymlaen at fy ymweliad nesaf, a chyfarfod gyda fy holl ffrindiau sy’n gwirfoddoli ac sydd bellach wedi dod fel teulu i mi o bob math o gefndir.
Rydw i bob amser wrth fy modd yn gweld mor drefnus yw’r digwyddiad Penwythnos MaD. Mae’r trefnwyr a’r staff mor gyfeillgar a chroesawgar bob amser. Mae’r gweithgareddau gwirfoddoli yn rhoi cyfle i ddysgu a rhoi yn ôl. Mae’r nosweithiau’n wych. Teimlo fel teulu <3
Byddaf yn meddwl yn aml a fyddai fy ngardd yn edrych yn hyfryd pe bawn yn treulio mwy o amser yn gofalu amdani yn hytrach na mynd i’r afael â phlanhigion ymledol a phlannu coed fel gwirfoddolwr. Ond dim ond ychydig o gymdogion a finnau fyddai’n gweld fy ngardd ac wrth weithio gyda Chymdeithas Eryri mae llawer mwy o bobl, gobeithio, yn elwa.
Mae gwirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri yn ddiwrnod gwych bob amser. Mae’n hyfryd bod yn yr awyr agored a gweithio mewn amgylchedd mor rhyfeddol; mae hefyd yn gyfle i brofi maes cadwraeth ac yn llawer iawn o hwyl.
Roedd gwirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri a phroject Caru Eryri yn ffordd wych o ddod i adnabod pobl o’r newydd pan symudais i ogledd Cymru o’r Alban ddwy flynedd yn ôl. Rydw i bellach yn teimlo fel rhan o’r gymuned ac, ynghyd â grŵp gwych o bobl, rydw i’n meddwl ein bod yn helpu i wneud Eryri yn lle gwell i fyw ac i ymweld â hi. Mae’n rhoi cyfleoedd i mi ddysgu mwy am yr ardal, ei hanes, lleoedd, byd natur a phobl – ac yn gyfle i mi ymarfer fy Nghymraeg!
Cawsom amser gwych yn cydweithio efo chi – buom yn lladd eithin a phlannu mes yn ogystal ag egin goed bach derw. Fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau eu hunain yn fawr yn ogystal â dysgu llawer am yr amgylchedd a chael profiadau na fydden nhw wedi gallu eu cael wrth fod ar eu pen eu hunain.
Cyfarfod gwirfoddolwyr eraill, cael y cyfle i gymryd rhan yn y penwythnos MaD, cyflawni gweithgareddau na fyddwn fel arfer yn cael cyfle i’w gwneud, bod yn rhan o dîm a dysgu medrau newydd… a mwy am Gymdeithas Eryri.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk