Dyblu cyfraniadau er mwyn helpu i warchod Eryri yn Her Nadolig y Big Give 2021

Bydd Eryri yn elwa o ddyblu cyfraniadau rhwng dydd Mawrth 30 Tachwedd a dydd Mawrth 7 Rhagfyr, diolch i Her Nadolig y Big Give 2021.

Mae cefnogwyr caredig gwaith Cymdeithas Eryri eisoes wedi addunedu £1,600. Rŵan fe’ch gwahoddir i gyfrannu drwy bortal ar-lein y Big Give yn ystod y saith diwrnod uchod, i gyfateb â’r addunedau hael yma. Ein nod yw codi £6,400 tuag at ein hymgyrch Pobl a Byd Natur, a gwireddu cyfleoedd i bobl helpu i warchod byd natur a mannau arbennig ledled Eryri.

Meddai John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri:

“Gan fod digwyddiadau wedi eu canslo oherwydd y pandemig, rydym wedi colli cyfleoedd lu i godi arian dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn golygu bod codi arian ar-lein yn ddull hanfodol o annog cefnogaeth i’n gwaith. Y gwanwyn diwethaf codwyd £2900 drwy ymgyrch codi arian tebyg gan y Big Give ac roedd y canlyniad yn rhyfeddol: atebwyd ein targed cyn diwedd yr wythnos. Y Nadolig hwn rydym yn gobeithio y bydd ein cefnogwyr yn ymateb i’r her unwaith eto.”

Ychwanegodd:

“Mae Eryri yn hardd ond mae newid hinsawdd, yr argyfwng bioamrywiaeth a phwysau twristiaeth yn fygythiad i’w thrysorau. Cofiwch gyfrannu y Nadolig hwn. Bydd yr arian a gawn yn ein helpu gyda’n gwaith parhaol i adfer byd natur, mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ymateb i bwysau ymwelwyr yn y Parc Cenedlaethol.”

Nodwch y Dyddiad

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddyblu cyfraniadau i Gymdeithas Eryri yn ystod yr wythnos 30 Tachwedd – 7  Rhagfyr eleni. Nodwch y dyddiad a’n helpu i fynd y tu hwnt i’n targed unwaith eto.

Ewch i theBigGive.org.uk a chyfrannu o 12pm (hanner dydd) ar ddydd Mawrth 30 Tachwedd. Bydd yr ymgyrch yn dod i ben am 12pm ddydd Mawrth 7 Rhagfyr.

Comments are closed.