Diwrnodiau Gwaith Girfoddolwyr Mis Chwefror

Ymunwch â ni ar ddiwrnodau Gwaith Gwirfoddolwyr ar gyfer mis Chwefror!

 

2/2 Cynnal a Chadw Celfi – Tŷ Hyll: Dewch draw i helpu i gynnal a chadw’r celfi rydym ni wedi bod yn eu defnyddio trwy gydol 2015. Bydd gennym ni arbenigwr wrth law i gynnig arweiniad i ni ynghylch sut i gynnal a chynnal pob mathau o gelfi, yn ogystal â sut i ymestyn eu defnyddioldeb. Lleolir y gweithgaredd yn y Tŷ Hyll hardd, felly byddwch yn sicr o fwynhau’r profiad. Mae croeso i wirfoddolwyr ddod â’u celfi eu hunain i gael eu hogi.

6/2 Rheoli Cynefinoedd – Hafod Garegog: Bydd Cymdeithas Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cydweithio i gymryd rhan mewn gwaith rheoli cynefin yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Hafod Garegog. Byddwn yn clirio llecyn o dir prysg fel gellir ei ddatblygu yn well cynefin ar gyfer fflora a ffawna cynefin. Bydd hyn yn cynnwys clirio helyg Mair, glasbrennau bedw ac eithin. Gwelir y gloÿnnod byw gleision serennog yma. Dewch draw i ddysgu am bwysigrwydd eu perthynas â’r morgrug duon a pham mae mor bwysig i ni reoli’r llecyn hwn ar eu cyfer! **Cludiant ar gael yn rhad ac am ddim o Fangor a Chaernarfon**
10/2 Plannu Gwrychoedd a Choed – Nantmor: O fewn Coedlan Coed Derw lleol Meirionnydd yn Nantmor, fe allwch chi ganfod nifer o glwydi Ystlumod Pedol Lleiaf. Mae’r Ystlum Pedol Lleiaf yn brin yn Ynysoedd Prydain ac mae wedi’i gyfyngu i Gymru, gorllewin Lloegr a gorllewin Iwerddon. Byddwn yn plannu gwrychoedd er mwyn cysylltu’r mannau coediog hyn. Byddwn yn creu cynefin llawer mwy addas i’r boblogaeth o ystlumod yn ogystal â mathau eraill o fywyd gwyllt lleol. Dewch i’n helpu ni i greu cynefin.
11/2 Diwrnod o waith yn Tŷ’n y Coed – Tŷ’n y Coed, Arthog: Mae Cymdeithas Eryri a’r Woodland Trust yn ymuno â’i gilydd ar gyfer diwrnod gwaith yn Ty’n y Coed – coedtir derw gwych a gweundir grug ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri . Mae’r tasgau ar gyfer y diwrnod yn cynnwys plannu coed, clirio llennyrch ar gyfer cennau a rheoli Rhododendron. Bydd cynrychiolydd y Woodland Trust wrth law i drafod y cynllun rheoli safle, nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol a bydd cludiant am ddim ar gael o Fangor a Chaernarfon. Cysylltwch gyda Bethan os hoffech chi gael gwybod mwy! **Cludiant am ddim o Fangor a Chaernarfon**

13/2, Cynnal a Chadw Llwybr – Lon Gwyrfai: Fel rhan o gytundeb rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chymdeithas Eryri, byddwn yn gwneud rhannau cyntaf y gwaith ar y llwybr amlbwrpas hwn sydd bellach wedi cael ei gysylltu â llwybrau eraill; erbyn hyn, gall beicwyr a cherddwyr ei ddefnyddio i fynd o Ryd Ddu i Feddgelert ar hyd dyffryn hardd Rhyd Ddu. Diben gwaith y diwrnod yw clirio/agor y draeniau a’r ceuffosydd, lle mae angen gwneud hynny, ar hyd darn dwy filltir (fwy neu lai) o Lon Gwyrfai. Byddwn ni hefyd yn casglu ac yn cofnodi unrhyw sbwriel a welwn ni. Bydd y gwaith yn cynnwys clirio malurion a fflora bychan mewn mannau ar hyd y darn hwn o’r llwybr, ac ni fydd angen mwy na chelfi llaw i wneud hyn (darperir y celfi). Byddwn yn cerdded i gyfeiriad y de, o gychwyn y llwybr tuag at Feddgelert, a bydd gennym ni amser i gerdded yn ôl. **Cludiant ar gael yn rhad ac am ddim o Fangor a Chaernarfon**

15/2 Casgliad Sbwriel yn Tŷ Hyll – Tŷ Hyll: A oes gennych ddiddordeb yn ein helpu i ‘Gadw Cymru’n Daclus’? Mae Cymdeithas Eryri yn cydweithio â thîm cadw Cymru’n daclus ac yn cynllunio Casgliad Sbwriel ar hyd y llwybrau o amgylch Tŷ Hyll. Bydd aelod o dîm Cadw Cymru’n Daclus yn ymuno â ni i egluro rhagor am eu prosiect, a bydd yn gyfle perffaith i glywed rhagor am Gymdeithas Eryri hefyd! Os nad ydych wedi gwirfoddoli i Gymdeithas Eryri o’r blaen ac fe hoffech chi ddod draw, cysylltwch â Bethan! Darperir yr holl offer, dewch draw yn gwisgo dillad ac esgidiau addas!

16/2 Brwydro Rhododendron – Bryn Gwynant: Mae Cymdeithas Eryri yn cydweithio ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn Nant Gwynant ers tro er mwyn clirio Rhododendron Ponticum o’r ardal. Mae Rhododendron Ponticum yn un o’r tair prif rywogaeth ymwthiol yng Nghymru ac mae’n hawdd gweld y difrod a wnaed ganddo i’n cefn gwlad cynhenid. Un o’n safleoedd mwyaf yw’r un yn Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant. Gallwch chi eisoes weld y gwahaniaeth rydym ni wedi’i wneud i’r tiroedd, ond nid yw’r frwydr wedi’i hennill eto. Mae digonedd o blanhigion Rhododendron Ponticum yn dal yno, ac mae angen eu clirio. Dewch â’ch llifiau bwa a’ch teclynnau tocio!

18/2 Rheoli Cynefinoedd – Hafod Garegog: Bydd Cymdeithas Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cydweithio i gymryd rhan mewn gwaith rheoli cynefin yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Hafod Garegog. Byddwn yn clirio llecyn o dir prysg fel gellir ei ddatblygu yn well cynefin ar gyfer fflora a ffawna cynefin. Bydd hyn yn cynnwys clirio helyg Mair, glasbrennau bedw ac eithin. Gwelir y gloynnod byw gleision serennog yma. Dewch draw i ddysgu am bwysigrwydd eu perthynas â’r morgrug duon a pham mae mor bwysig i ni reoli’r llecyn hwn ar eu cyfer! **Cludiant ar gael yn rhad ac am ddim o Fangor a Chaernarfon**

19/2 a 20/2 Wythnos Cenedlaethol Blychau Nythu a Digwyddiadau Hanner Tymor –Tŷ Hyll: Ymunwch â ni yn Nhŷ Hyll i’n helpu i ddathlu Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu! Trefnwyd gan Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, mae Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu wedi ei sefydlu ers 1997 ac yn gyfle perffaith i chi gael gwybod mwy am sut i annog adar i glwydo yn eich gardd! Yn ogystal â rhoi rhai awgrymiadau i chi ar y gwahanol fathau o flychau nythu, bydd digon o weithgareddau drwy gydol y dydd, gan gynnwys gwylio adar, gwylio bywyd gwyllt, gwneud dyfais bwydo adar a gallwch hyd yn oed roi cynnig ar ‘celf wyllt’! Mae’r holl weithgareddau yn addas i blant ac oedolion – ffordd berffaith i dreulio eich hanner tymor!

23/2 Diwrnod o waith yn y coetir – Tŷ Hyll: Mae’r gwaith o gynnal a chadw ein coetir ysblennydd yn dibynnu ar haelioni ein tîm rhagorol o wirfoddolwyr ymroddedig. Pa un ai a hoffech helpu â’n harolwg o adar neu rywbeth mwy corfforol fel cynnal llwybrau troed, ymunwch â ni i fynd i’r afael â thasgau’r mis hwn yn y coetir!

24/2 Plannu Coed – Beddgelert: Mae’r prosiect sy’n mynd rhagddo i glirio Rhododendron Ponticum ym Meddgelert yn adnabyddus iawn ymhlith ein gwirfoddolwyr. Treuliwyd blynyddoedd yn torri ac yn llosgi’r rhywogaeth ymwthiol hon fel cam cyntaf y prosiect. Gan gydweithio ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, rydym ni wedi cael cyfle i gymryd rhan yng ngham olaf y prosiect. Nawr, byddwn ni’n plannu coed cynhenid yn rhai o’r mannau sydd wedi cael eu clirio i helpu i ddychwelyd y dirwedd i’w ffurf wreiddiol. Dewch i weld beth rydym ni wedi’i gyflawni ac ymunwch â ni i gymryd rhan yn y cam olaf.

Tŷ Hyll: Gardd Bywyd Gwyllt, bob dydd Llun: Cyfle i helpu i gynnal a chadw gardd a choetir hardd Tŷ Hyll.

Cystlltwch â Bethan am fwy o wybodaeth!

 bethan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498

Comments are closed.