Dim toiledau yn y mynyddoedd?

Mae ‘gwledig’, ‘gwyllt’ a ‘dihangfa’ yn ffyrdd o ddisgrifio diwrnod o grwydro Eryri. Yr eiliad hon mae pobl yn heidio i ymlacio a mwynhau’r harddwch arbennig a gynigir gan Eryri.  Ond dyma ddarn pwysig o wybodaeth … does dim toiledau yn y mynyddoedd.

Mae’n ymddangos yn amlwg o bosib. Ond dydy o ddim yn ddoniol os oes rhaid i chi fynd. A dydy o ddim yn ddoniol chwaith pan fo gwirfoddolwyr sy’n clirio sbwriel yn y Parc Cenedlaethol yn dod o hyd i faw dynol o dan fagiau plastig a deunydd lapio. Os wnawn ni i gyd yr hyn sydd ei angen mewn ffordd gyfrifol, mae’n gwneud cefn gwlad yn fwy diogel i bawb ac mae’n atal llygredd afonydd, nentydd a llynnoedd – dyma lle’r ydym yn cael ein dŵr yfed i gyd.

  1. Cynlluniwch ymlaen llaw. ‘EWCH cyn mynd’

Bydd hyn yn osgoi embaras a phanig. Dyma’r dewis gorau BOB AMSER.

  1. Gwnewch eich gwaith cartref. Lle mae’r toiledau cyhoeddus?

Cysylltau ar gyfer lleoliadau toiled cyhoeddus:

Cyngor Gwynedd

Cyngor Bwrdeisdref Conwy 

Mwynhewch Eryri mewn ffordd gyfrifol a chofiwch ‘Ewch cyn i chi fynd!. Dyma sydd orau i bawb.

Cwestiynau cyffredin

Ga’i fynd mewn cilfan neu oddi ar y llwybr?

Na, dydy hyn BYTH YN IAWN – cynlluniwch ymlaen llaw a sicrhewch eich bod yn cyrraedd toiled cyhoeddus mewn da bryd.

Rydw i ar droed filltiroedd o unlle, does ’na neb o gwmpas ac mae’n rhaid i mi fynd …

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn barchus; chwiliwch am le tawel lle na fydd pobl yn mynd a lle all neb eich gweld. A pharatowch ymlaen llaw:
  • Dewis gorau: ewch â bag cryf neu gynhwysydd sy’n selio efo chi. Ewch â fo adref a’i roi i lawr y toiled mewn modd gyfrifol.
  • Opsiwn mewn argyfwng yn unig: Ewch â thrywel efo chi. Tyllwch dwll o leiaf 15cm o ddyfnder ac o leiaf 50m i ffwrdd o nentydd a llwybrau. Gosodwch y tywyrch yn ôl wedi i chi orffen. Ewch ag unrhyw hancesi papur neu gynnyrch mislif adref efo chi. A chofiwch mai dim ond mewn argyfwng y dylid gwneud yr uchod.

Comments are closed.