Dim anrhegion!

snowdonia_celebration_giving

Pa mor aml ydych chi wedi gwneud ple o’r fath i ffrindiau neu deulu cyn dathlu pen-blwydd, ac wedyn derbyn bocs arall o siocledi neu bâr o fenig fyddwch byth yn eu gwisgo? Mae un o’n cefnogwyr wedi datrys y broblem hon a wedi codi dros £1,000 at ein gwaith.

Mae’n amlwg fod pobl yn hoff iawn o roi anrhegion. Felly, yn hytrach na dweud ‘Dim anrhegion!’, beth am ddilyn esiampl un o’n cefnogwyr?

Pan yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed yn ddiweddar, awgrymodd Mal i’w gwesteion i roi cyfraniad at Gymdeithas Eryri yn lle anrhegion. Yn y modd hwn, cododd swm gwych o £1,090 at ein gwaith o ddiogelu a gwella Eryri, ei tirweddau a’i bywyd gwyllt. Gyda Chymorth Rhodd, mae’r cyfanswm yn cyrraedd £1,263!

Medda Mal, “Pan ysgrifennais ‘Dim anrhegion! Eich cwmni sy’n bwysig’ ar y gwahoddiadau, dywedodd llawer o ffrindiau y byddent yn hoffi rhoi i rywbeth. Gan fod y mwyafrif helaeth o’r rhai a wahoddwyd wedi treulio llawer o amser hamdden a gwyliau cerdded yn Eryri, roedd yn gweld yn syniad da i ofyn iddynt roi i’r elusen sydd yn gofalu am yr ardal hyfryd hon o Gymru yr ydym yn freintiedig i fyw ynddi. ”

A be fydda’n well na rhodd a fydd yn helpu i ofalu am le arbennig sy wrth fodd ei galon?

Felly, diolch, Mal. A diolch i’ch teulu a bob un o’ch ffrindiau am roi’n hael iawn.

Wrth gwrs, nid yn unig pen-blwyddi y gellir eu marcio gyda rhoddion o’r fath; mae’r Nadolig, priodasau, bedyddiadau, ymddeoliad neu unrhyw achlysur arall lle mae pobl yn awyddus i roi anrhegion yn gyfle i wneud gwahaniaeth i achos sy’n agos i galon eich ffrind.

Os hoffech chi wneud yr un peth â Mal, a gofyn i’ch ffrindiau gyfrannu at waith Cymdeithas Eryri yn lle rhoi anrheg, cysylltwch â ni am becyn Rhoddion Dathlu, neu gweler ein tudalen codi arian ar JustGiving.com

Dim rhagor o anrhegion diangen, a cham arall tuag at gadw Eryri yn wyllt ac yn hardd.

* Nid Mal yw ei enw go iawn; mae ein cefnogwr wedi gofyn i beidio cael ei enwi.

1140
Cyfanswm mae Mal wedi ei godi (£)

Comments are closed.