Adnabod Ffyngau Capiau Cwyr mewn Glaswelltiroedd a’u Hecoleg Fungi

Modiwl wedi’i achredu ar lefel 1 (blwyddyn gyntaf, israddedig):  10 credyd.

Rhoddir pwyslais ar waith ymarferol yn y maes ac adnabod enghreifftiau sydd newydd eu casglu o gynefinoedd glaswelltir yn yr ardal gyfagos.   Cynhelir cyfres o helfeydd ffyngau, a rhoddir sylw i adnabod nodweddion pob enghraifft yn y maes.  Trafodir ansawdd cymharol cynefinoedd glaswelltir a’r gofynion o ran rheoli’r safle/safleoedd.  Ceir trafodaeth reolaidd ynghylch pynciau yn ymwneud â mycoleg glaswelltiroedd, yn cynnwys cyfeirio at ymchwil a gwaith arolygu presennol pan fo hynny’n berthnasol.

3 Dydd Sadwrn (10yb-5yh) yng Nghanolfan Amgylcheddol Moelyci, ger Bangor:

21.10.17; 28.10.17 & 4.11.17

 Ffi – £120.00

 Cynigir disgownt i wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri – arbediad o £40 sef 66% o’r gost. Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael. Cysylltwch â mary-kate@snowdonia-society.org.uk cyn dydd Gwener 22 Medi.

Llun:  http://www.denbighshirecountryside.org.uk/waxcap-fungi/

www.aber.ac.uk/en/lifelong-learning

Dysgu Gydol Oes / Lifelong Learning P5 Campws Penglais Campus, Aberystwyth SY23 3UX

Llun: http://www.denbighshirecountryside.org.uk/waxcap-fungi/