Wythnos Gwirfoddoli 2018!
Dydd Llyn 4 – Dydd Gwener 8 Mehefin, ardraws Eryri
Wythnos hynod o ddifyr o weithgareddau cadwraeth amrywiol yn Eryri at ddant pawb. Dewiswch un diwrnod neu dewch am yr wythnos gyfan er mwyn cwblhau ein huned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol achredir gan Agored Cymru – cyfle gwych i ddangos tystiolaeth o’ch sgiliau i ddarpar gyflogwyr.
Dydd Llun 4 Mehefin: Diwrnod gwaith coed ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Coedlannau. Dysgwch sut i baratoi cyfeirbwyntiau a gwneud gatiau o bren hollt!
Dydd Mawrth 5 Mehefin: Cynnal a chadw llwybrau ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dysgwch sut i glirio draeniau a chulffosydd a pham fod hyn yn bwysig!
Dydd Mercher 6 Mehefin: Diwrnod gwaith ffensio ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Dysgwch sut gall ffensys fod yn llesol i fywyd gwyllt!
Dydd Iau 7 Mehefin: Casglu sbwriel ar yr Wyddfa – Digwyddiad bythol boblogaidd ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Dysgwch sut a pham byddwn ni’n casglu ac yn cynnal arolygon o sbwriel!
Dydd Gwener 8 Mehefin: Clirio rhododendron ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Dysgwch pam mae Rhododendron yn broblem mor fawr yn Eryri a beth sy’n cael ei wneud i’w drechu!
Bob dydd, byddwn ni hefyd yn dangos i chi sut i archwilio offer i sicrhau eu bod yn ddiogel cyn ac ar ôl eu defnyddio i’w cadw mewn cyflwr gwych.
Bydd cludiant ar gael yn rhad ac am ddim bob dydd o Fangor a Chaernarfon.
Dewch draw i roi cynnig arni ac i wneud eich rhan dros Eryri!
Mae nifer y llefydd yn gyfyngedig a chyntaf i’r felin fydd yn cael cyfle. Gallwch archebu llefydd o Mai 2il. Am holiadau, cysylltwch â: mary-kate@snowdonia-society.org.uk
Cymdeithas Eryri: Yn gwarchod, gwella a dathlu Eryri ers 50 mlynedd.