Casglu Sbwriel o’r Môr i’r Mynydd 2: Afon

Casglu Sbwriel o’r Môr i’r Mynydd 2: Afon

11:30yb-3:30yp, Penrhyndeudraeth

Yr ail ddiwrnod o gasglu sbwriel yn ein cyfres o’r Môr i’r Mynydd ar gyfer 2018, yn canolbwyntio’r tro yma ar yr Afon Dwyryd. Dewch i’n helpu i glirio pob math o sbwriel – o bacedi creision i deiars tractor – o lannau’r afon hyfryd hon yn Eryri. Mewn partneriaeth â Chadw Cymru’n Daclus.

Rhaid archebu lle:
claire@snowdonia-society.org.uk | 01286 685498


Cymdeithas Eryri: Yn gwarchod, gwella a dathlu Eryri ers 50 mlynedd.