Penwythnos MAD 2018

Penwythnos MAD 2018

Dydd Gwener 21 – Dydd Sul 23 o Fedi, Craflwyn, ger Beddgelert

Wedi llwyddiant ein digwyddiad cyntaf y llynedd, rydym yn dychwelyd am benwythnos arall llawn hwyl gyda gorchwylion gwirfoddoli amrywiol ledled Eryri gyda dewis o wersylla dros nos, barbiciw a cherddoriaeth werin fyw ar stad Craflwyn. 

MAE COFRESTRU AR GYFER PENWYTHNOS MAD 2018 WEDI CAU

Ymunwch â ni wrth i ni gydweithio gyda chyrff eraill i wneud gwir wahaniaeth yn Eryri. Mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Fywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Coed Cadw a llawer mwy. Rhaid cofrestru cyn 5yp ar dydd Gwener 14 Medi 2018.

Gweithgareddau’r penwythnos a lleoliadau (cliciwch am fap):

DYDD GWENER 21 MEDI 10yb-3yp

1.Rheoli Mawndir – Rhyd Ddu LLAWN
Mae mawndiroedd yn cynnal llawer o rywogaethau ac yn gwneud cyfraniad allweddol at y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae llawer ohonynt yn dirywio. Ymunwch â ni i gyfranogi mewn sesiwn gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i reoli’r mawndir ger Rhyd Ddu ble byddwn ni’n defnyddio offer llaw i ailbroffilio llecyn o fawn sydd wedi’i ddifrodi a’i adfer i’w gyflwr gwlyb socian priodol! Mae welingtons yn hanfodol ar gyfer y digwyddiad hwn.

2.Clirio Rhododendron – Ystâd Craflwyn
Mae Rhododendron ponticum yn rhywogaeth estron hynod o ymledol sy’n niweidiol dros ben i blanhigion ac anifeiliaid cynhenid.  Helpwch ni i reoli’r bygythiad hwn gan ddefnyddio matogau, llifiau a thocwyr, gyda Simon, un o geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn y goedwig yng Nghraflwyn.

3.Casglu Sbwriel ar yr Wyddfa – Llyn Llydaw LLAWN
Ydych chi’n hoffi mynyddoedd ond yn casáu sbwriel? Ymunwch â’r fynyddwraig brofiadol Tamsin Fretwell a Rhys Roberts, un o wardeiniaid APCE, i gyfranogi yn y gweithgaredd casglu sbwriel heriol hwn o amgylch Llyn Llydaw ar yr Wyddfa. Tir mynydd garw – mae angen esgidiau creded cadarn a lefel o ffitrwydd sy’n addas i grwydro mynyddoedd.

4.Cynnal a Chadw Llwybrau – Craflwyn
Mae gan Ystâd Craflwyn rwydwaith hanesyddol o lwybrau troed sy’n cris-croesi ei llethrau coediog serth. Byddwch yn defnyddio rhawiau a matogau ac yn cydweithio â Ned Feesey, un o geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i atgyweirio llwybrau sydd wedi’u difrodi er budd y cyhoedd.  Bydd esgidiau cadarn yn hanfodol.

5.Clirio Coed Conwydd – Cors Bodgynydd
Gall coed conwydd estron ymledu mewn cynefinoedd gwlypdiroedd a mawndiroedd. Fel rhan o’r gweithgaredd hwn, byddwn yn clirio glasbrennau coed conwydd i amddiffyn y fawnog wych yng Nghors Bodgynydd sy’n gartref i sawl rhywogaeth ryfeddol o was y neidr, ymhlith llu o rywogaethau eraill. Ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Bydd welingtons yn hanfodol.

DYDD SADWRN 22 MEDI 10yb-3yp

6.Glanhau Traeth – Traeth y Graig Ddu, Porthmadog LLAWN
Mae cyfanswm y gwastraff plastig sy’n cyrraedd glannau ein harfordir yn destun pryder sylweddol, ond gallwch chi wneud eich rhan trwy ymuno â swyddogion prosiect Cymdeithas Eryri, Owain a Dan, ar gyfer diwrnod o gasglu sbwriel ar hyd Traeth y Graig Ddu, ger Porthmadog. Gan gychwyn ym mhen gorllewinol y traeth, byddwch yn cerdded i gyfeiriad y dwyrain am oddeutu 3km, gan gasglu sbwriel wrth fynd.

7.Casglu Hadau Coed – Cwm Bychan, Nantmor
A wyddoch chi fod llawer o rywogaethau coed yn endemig i’r amgylchedd lleol ble canfyddir hwy? Dyna pam mae’n bwysig tyfu glasbrennau o hadau a gesglir yn lleol. Ymunwch â Kylie Mattock o Ymddiredolaeth Coedlannau Cymru i gasglu hadau coed cynhenid o goed lleol yng Nghwm Bychan, Nantmor.  Darperir sisyrnau tocio i gasglu’r hadau, a bydd y gwaith yn digwydd ar lwybrau heb arwyneb, a cheir rhai rhannau a chamau serthach.

8.Cynnal Llwybrau Troed – Nant Gwynant LLAWN
Ymunwch â Ned, un o geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i gyfranogi mewn sesiwn o waith cynnal a chadw llwybrau ger Llyn Dinas; yn ôl chwedlau Arthur, cuddid gorsedd Prydain dan graig ger ymyl y llyn yno. Y prif waith fydd creu sianeli draenio a thirweddu er mwyn atal erydu. Bydd esgidiau cadarn yn hanfodol. Daliwch sylw: bydd y gwaith hwn yn cynnwys taith gerdded milltir o hyd i leoliad y gweithgaredd ac oddi yno, a bydd rhagor o gerdded wrth weithio ar y llwybrau troed.

9.Arolwg o Ymlusgiaid – Gwaith Powdwr
Mae Gwaith powdwr yn warchodfa natur hynod o ddiddorol ble mae bywyd gwyllt yn ffynnu mewn lleoliad ôl-ddiwydiannol. Ymunwch ag Anna a Katy o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i gyfranogi mewn arolwg o ymlusgiaid yn cynnwys madfallod, dallnadroedd a chreaduriaid eraill i hysbysu cynlluniau rheoli’r dyfodol.

DYDD SUL 23 MEDI 10yb-3yp

10.Casglu Sbwriel â Chanŵod – Llyn Padarn LLAWN
Mae Plas y Brenin a Snowdonia Watersports wedi bod yn ddigon caredig i roi benthyg fflyd o ganŵod Canadaidd am ddiwrnod i gasglu sbwriel ar Lyn Padarn, Llanberis. Os ydych chi’n hoffi’r syniad o botsian mewn cychod a chodi pob math o sbwriel o’n llyn hardd ar yr un pryd, bydd hwn yn weithgaredd delfrydol i chi! Bydd dau o bobl ym mhob cwch, a bydd hyfforddwyr chwaraeon padlo profiadol yn arwain y sesiwn. Bydd dillad sy’n dal dŵr a welingtons yn hanfodol. Darperir siacedi achub.

11.Casglu Hadau Coed – Cwm Bychan, Nantmor
Diwrnod arall ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Coedlannau Cymru yn casglu hadau coed i annog plannu hadau o goed lleol (gweler disgrifiad a lleoliad gweithgaredd 6).

12.Clirio Helyg – Morfa Bychan
Byddwch yn cydweithio ag Anna a Katy o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac yn defnyddio offer llaw i dorri glasbrennau helyg er mwyn amddiffyn cynefin y system twyni tywod a’i chyfoeth o flodau ym Morfa Bychan, ger Porthmadog. Bydd esgidiau cadarn yn hanfodol.

13.Creu Blychau Nythu – Craflwyn LLAWN
Awydd gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol? Dewch i aros yn safle Pencadlys Penwythnos MAD i fireinio eich sgiliau gwaith coed a helpu i greu blychau nythu ar gyfer adar yn y babell fawr yng Nghraflwyn. Defnyddir y blychau yng Ngwarchodfa Natur Genedaethol Coedydd Aber, Abergwyngregyn, i helpu i roi hwb i’r gwybedog brith, un o rywogaethau adar clasurol coetiroedd derw Cymru. Nodwch fod y gweithgaredd yma yn mynd ymlaen rhwng 10yb-1yp i’r rhai sydd angen gadel yn gynharach yn y pnawn.


*Daliwch sylw, byddwn ni’n darparu’r cludiant, y menig a’r offer ar gyfer pob gweithgaredd, ond cofiwch ddod â’ch dillad dal dŵr a’ch pecyn bwyd bod dydd!

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â Claire:
claire@snowdonia-society.org.uk
01286 685498


Cymdeithas Eryri: Yn gwarchod, gwella a dathlu Eryri ers 50 mlynedd.
.