Garddio Bywyd Gwyllt a Chynnal a Chadw’r Pwll

Mae anterth tymor bridio amffibiaid wedi dod i ben ac mae’r dail yn cychwyn disgyn – dyma’r cyfnod gorau i wisgo esgidiau pysgota a rhoi rhywfaint o sylw haeddiannol i’r pwll bywyd gwyllt. Mae angen tocio dail sy’n marw, clirio sbwriel dail gormodol a rheoli rhywogaethau planhigion digroeso sy’n goruchafu. Os hoffech roi cynnig ar wisgo ein hesgidiau pysgota newydd yn y pwll am y tro cyntaf, neu os hoffech helpu yn yr ardd bywyd gwyllt, dewch draw i roi help llaw os gwelwch yn dda. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol!

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Bethan naill ai drwy e-bost ar bethan@snowdonia-society.org.uk neu ffoniwch y swyddfa ar 01286 685 398! Mae gwirfoddolwyr newydd yn cael eu croesawu bob amser!