Cynnal a Chadw Llwybrau Troed
Archebu lle yn hanfodol, Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael.
Mwynhewch olygfeydd ysblennydd o’r Garn wrth i ni ymuno â thîm cynnal llwybrau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gyfranogi mewn diwrnod o waith boddhaus. Hyd yn hyn eleni, rydym ni wedi helpu’r tîm i glirio draeniau a cheuffosydd, gosod cerrig sarn a datgymalu carneddi diangen. Mae’r gwaith a wneir gennym ni yn gwneud cyfraniad sylweddol at gynnal y llwybrau yn yr ardal boblogaidd hon. Bydd cryn dipyn o gerdded bryniau yn digwydd yn ystod y rhan fwyaf o’r diwrnod wrth i ni fynd yn raddol ar hyd y llwybr.
Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498498