Cynnal a Chadw Llwybrau: Llwybr Pyg, Yr Wyddfa
Mae cyfraniad gwirfoddolwyr at gynnal a chadw llwybrau troed ar ein mynyddoedd yn bwysicach nag erioed, ac mae mwy o bobl nag erioed yn dewis gwisgo eu hesgidiau a mynd i’r bryniau.
Llwybr Pyg yw’r ail o blith y llwybrau mwyaf poblogaidd i fyny’r Wyddfa, ac mae’n denu dros 125,000 o gerddwyr bob blwyddyn. Ymunwch â thîm Wardeniaid y Parc Cenedlaethol a mwynhewch y golygfeydd wrth i ni gerdded i fyny’r rhan hyfryd hwn o’r llwybr gan agor ffosydd wrth fynd.
Rhaid archebu lle.
Cysyllwtch a Dan i gofrestru:
dan
01286 685498