David Bird yn dod yn ail mewn gwobr genedlaethol

Mae ein gwirfoddolwr gwych, David Bird, wedi ennill ail wobr mewn gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn sy’n dathlu cyfraniad gwirfoddolwyr mewn parciau cenedlaethol ledled Cymru a Lloegr! Enwebwyd oddeutu 40 o wirfoddolwyr ar gyfer y wobr hon, a drefnir gan yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol, felly rydym yn falch iawn o’i lwyddiant! Diolch enfawr i’r cannoedd ohonoch a bleidleisiodd dros David.

Roeddem yn falch o’r cyfle i sicrhau cydnabyddiaeth i David am yr holl ddyddiau y mae wedi rhoi ei amser i gyflawni gwaith cadwraeth ymarferol i helpu i ofalu am Eryri, yn ogystal â’i waith gwirfoddoli fel arall i bobl a lleoliadau ledled yr ardal. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. Ein gwerthfawrogiad llwyr, David!

Mae David wedi parhau i ddychwelyd i wneud mwy o waith – ydych chi wedi eich hysbrydoli i wirfoddoli i Gymdeithas Eryri 2021? Rydym yn aros am fwy o lacio ar gyfyngiadau’r Covid-10 cyn i ni hysbysebu dyddiau gwirfoddoli ymarferol, ond rydym yn gwybod y byddwn yn cynnal project mawr o’r enw ‘Gofalu am Eryri’ a fydd ar y gweill drwy gydol yr haf. Cliciwch yma i ddarllen mwy amdano a sut i gymryd rhan.

Comments are closed.