A ddylai celf gael ei gyfyngu gan dirlun?

Dadl gyhoeddus

Dydd Mercher 19eg Hydref 12.00-13.30pm
Y Tabernacl, Amgueddfa Gelf Fodern – MOMA – Machynlleth
Croeso cynnes i bawb. Croesewir rhoddion ar y drws.

Yn gynharach eleni, denodd gwaith celf arnofiol Anthony Garratt ar Lyn Llydaw, o dan gopa’r Wyddfa, sylw’r cyfryngau a chryn ddadlau.

Yn y Parciau Cenedlaethol mae rheolau cynllunio’n bodoli i warchod ‘harddwch naturiol’ y tirluniau gwarchodedig hyn, ond nid yw gweithiau celf megis hwn bob amser yn dod o dan reoliadau o’r fath.

Y cynnig

‘Mae’r tŷ hwn yn ystyried na ddylai celf gyhoeddus a gosodiadau sy’n ymwneud â chelf ddod o dan reoliadau datblygu pellach.’

Cynigydd: Gareth Roberts – hanesydd celf, cynlluniwr, ymgynghorydd amgylcheddol, ymddiriedolwr Cymdeithas Eryri
Eilydd: Ewan Allinson – cerflunydd, gweithredwr diwylliedig, Prif Swyddog y Rhwydwaith Tirlun a Chelf

Gwrthwynebydd: Paul Gannon – awdur, ymddiriedolwr Cymdeithas Eryri, ysgrifennwr am wyddoniaethau daear a materion amgylcheddol.
Eilydd: Rob Collister – tywysydd mynydd rhyngwladol ac awdur sy’n ysgrifennu ar faterion amgylcheddol.

Cadeirydd: Dr Peter Wakelin – hanesydd celf, curadur, a chadwraethwr sydd wedi gweithio gyda Cadw ac fel Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Cyfieithu ar y pryd ar gael i alluogi pawb i gyfrannu yn eu dewis iaith.

Trefnir gan Cymdeithas Eryri the Snowdonia Society mewn cydweithrediad â MOMA Machynlleth a gyda chefnogaeth y Grŵp Ymchwil Tirlun/Landscape Research Group.

 

Comments are closed.