Newydd am 2018: Cystadleuaeth ffotograffiaeth Cymdeithas Eryri

Mae Cymdeithas Eryri wedi lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth a fydd yn dethol 12 o’r delweddau gorau gan Gystadleuwyr i’w cynnwys yng nghalendr 2019 yr elusen i godi arian tuag at y gwaith o ddiogelu’r Parc Cenedlaethol.  

‘Eryri’ yw thema’r gystadleuaeth ac mae’n agored i’r cyhoedd; caniateir i gystadleuwyr anfon un llun atom i gystadlu yn y gystadleuaeth, a hynny erbyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2018.

Gwobrau Hael

Mae’r gwobrau cyffrous yn cynnwys noson yn Elen’s Castle Hotel, profiad anturus gyda RAW Adventurestocyn rhodd o £25 i Felinau Gwlân Trefriw a photel o Jin Llechen Las. Bydd y 12 llun gorau yn cael eu dewis gan banel o feirniaid, a bydd y cystadleuwyr sydd wedi’u tynnu yn ennill aelodaeth o Gymdeithas Eryri am flwyddyn, a chyfle i weld eu delweddau yn ein calendr 2019.  Bydd y llun sy’n ennill y brif wobr yn cael ei gynnwys yn y calendr ac ar ei glawr, ac aelodaeth i Gymdeithas Eryri.

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y ffotograffydd a’r wneuthurwraig ffilmiau adnabyddus leol, Natasha Brooks, (chwith) yn aelod o’r panel beirniadu, a bydd yn cynnal gweithdy ffotograffiaeth yn y gwanwyn i helpu i fireinio sgiliau’r sawl a hoffai cystadlu.

Rhaid i’r lluniau fod yn rhai digidol ag eglurdeb llawn ac yn lluniau tirlun. Dylid eu hanfon at info@snowdonia-society.org.uk erbyn hanner nos ar 30 Mehefin 2018. Gwahoddir y 12 cystadleuydd y dewisir eu lluniau i seremoni wobrwyo yng Nghoed y Brenin ar ddydd Sadwrn 27 Hydref 2018. Bydd y calendr ar werth i’r cyhoedd yn ystod y digwyddiad hwnnw hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth ac i ddarllen rheolau’r gystadleuaeth, cliciwch yma.

Mwynhewch y gystadleuaeth!

Comments are closed.