Ymgynghoriad Cychwynnol Cynllun Eryri

Cynllun rheolaeth newydd ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri

Mae’r Parc Cenedlaethol yn creu cynllun rheoli partneriaeth newydd ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri: Cynllun Eryri. Mae hwn yn amser cyffrous i ni oherwydd y byddwn yn gweithio gyda phawb sydd â diddordeb mewn gofalu am y Parc Cenedlaethol, i greu’r cynllun gorau posibl ar gyfer yr hyn y byddwn yn ei gyflawni yn y 5 mlynedd nesaf, a thu hwnt.”  Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

O ddydd Llun y 9fed o Orffennaf 2018 hyd at ddydd Sul y 30ain o Fedi mae gennych chi’r cyfle i rannu eich barn a’ch syniadau gyda ni fel rhan o’r cyfnod ymgynghori, ac mae yna nifer o ffyrdd gwahanol y gallwch chi gael gafael ar yr wybodaeth ategol ac i gyflwyno eich sylwadau.

Un ffordd y gallwch chi wneud hyn yw trwy ymweld â’n harddangosfa deithiol. Byddwn yn mynd â’r ymgynghoriad ar daith o gwmpas yr ardal, sy’n cynnwys y lleoliadau canlynol:

Neuadd Ogwen, Bethesda: 09/07/2018 tan 22/07/18
Canolfan Groeso Betws y Coed: 23/07/18 tan  05/08/18
Canolfan Groeso Beddgelert: 06/08/18 tan 19/08/18
Canolfan y Plase, Y Bala: 20/08/18 tan 02/09/18
Canolfan Groeso Aberdyfi: 03/09/18 tan 16/09/18
Castell Harlech: 17/09/18 tan 30/09/18

Mae croeso mawr i chi ddod draw i’r canolfannau hyn er mwyn cael mwy o wybodaeth ynghylch yr ymgynghoriad, sut i ymateb a chyflwyno eich sylwadau ac i weld y Ddogfen Ymgynghori. Bydd copïau o’r ddogfen ar gael, yn ogystal â sgrîn gyffwrdd ryngweithiol sy’n cynnwys gwybodaeth am yr ymgynghoriad, fersiwn fer o’r Ddogfen Ymgynghorol, a ffilm fer.

Yn ogystal â hyn, os dilynwch chi’r ddolen i wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol cewch gwblhau’r ymgynghoriad ar-lein.

Comments are closed.