Cynllun Eryri: Cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri

Cynllun Eryri: Cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri

Bydd Cymdeithas Eryri yn helpu i wireddu cynllun tymor hir newydd ac arloesol ar gyfer  Eryri a fydd yn cael ei lansio ar ddydd Iau 26 Tachwedd. Bydd y cynllun yn nodi mewn manylder sut y byddwn yn mynd i’r afael a rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r Parc Cenedlaethol.

Mae’r Cynllun yn nodi sut fydd pawb yn cydweithio er mwyn gwarchod y Parc a’r pethau sy’n ei wneud yn unigryw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Fe’i profwyd yn ofalus ar sail digwyddiadau 2020 ac fe’i fabwysiadwyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Medi. Meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold:

“Rydym yn croesawu’r dull newydd ac agored hwn o weithredu ac yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn gwireddu’r Cynllun drwy gyfrwng ein rhaglenni gwirfoddoli a hyfforddi gyda phobl ifanc.”

Er bod yn rhaid i’r Awdurdod lunio Cynllun ar gyfer sut y byddwn yn edrych ar ôl Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, rydym wedi defnyddio hwn fel cyfle i gymryd ymagwedd newydd sbon at y ffordd rydym yn gwneud pethau. Dywedodd Wyn Ellis Jones, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Rydym wedi cael ein dylanwadu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac wedi cynnwys blaenoriaethau yn ymwneud a’r amgylchedd yn dilyn cyhoeddiadau diweddar. Rydym wedi sicrhau bod canlyniadau uchelgeisiol wedi eu hanelu ar gyfer y dyfodol ond sydd eto’n realistig wedi gwreiddio yn ein meddyliau. Fel criw o sefydliadau rydym wedi cydweithio ac ymrwymo at anelu at y ffordd orau ymlaen er mwyn cadw Eryri yn le eithriadol”

Mae’r Cynllun wedi ei gynhyrchu yng ngwir ystyr partneriaeth gyda sefydliadau o’r sector gwirfoddol a phreifat, cynghorau, cyrff amgylcheddol yn ogystal â rheolwyr tir, cymunedau a busnesau. Mae’r Bartneriaeth a elwir yn Fforwm Eryri wedi gwrando ar syniadau a phryderon pobl er mwyn cynhyrchu rhywbeth rydym ni’n meddwl fydd yn lwybr realistig dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Efallai mai rhai o’r adborth gorau a gawsom yw bod Cynllun Eryri yn sicrhau bod y rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r Parc yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli’n dda ac ein bod wedi gwrando arnynt. Dyna fu ein blaenoriaeth ers inni ddechrau’r broses newydd hon bron i dair blynedd yn ôl.”

Dywedodd Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau’r Parc Cenedlaethol:

“Rydym wedi dechrau gweithredu amcanion y Cynllun Partneriaeth yn barod a mae cynlluniau ar droed i ailgysylltu ardaloedd tameidiog o goetir trwy’r prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd; ystyried parthau ‘di-blastig’ o fewn y Parc Cenedlaethol; gweithredu opsiynau trafnidiaeth a pharcio cynaliadwy newydd; datblygu Cynllun Llysgenhadon gyda busnesau lleol; dathlu ein hamgylchedd hanesyddol a’n treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog trwy Brosiect Tirlun y Carneddau, ymysg llawer o bethau eraill cyffrous.”

Dywedodd Lesley Griffiths Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Rwy’n hynod falch lansio Cynllun Eryri, sy’n ffrwyth llafur Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’i bartneriaid, nid yn unig fydd hyn yn dysgu gwersi o bandemig Covid-19 ond hefyd yn dangos sut bydd yr Awdurdod yn bwriadu defnyddio a gwella rhai o’u hasedau gorau a thirlun naturiol hynod.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio ar y Cynllun ac yn edrych ymlaen at ei lansio’n swyddogol yn nes ymlaen yn yr wythnos”.

Comments are closed.