Cynhadledd pen-blwydd yn 50 yn annog dadleuon dros ddyfodol Parciau Cenedlaethol

Cynhadledd pen-blwydd yn 50 yn annog dadleuon dros ddyfodol
Parciau Cenedlaethol

Y penwythnos diwethaf cynhaliodd Cymdeithas Eryri ei Chyfarfod Blynyddol a Chynhadledd
pen-blwydd yn 50 mewn lleoliad hardd yng nghanol Eryri, sef Plas Tan y Bwlch, canolfan
astudiaethau’r Parc Cenedlaethol.

Mynychodd dros 70 o bobl y gynhadledd ben-blwydd Wynebu’r Dyfodol i wrando ar siaradwyr
amrywiol a gwybodus yn datgan eu safbwynt hwy am Eryri: Wynebu’r Dyfodol.

Rhoddodd Arwyn Owen, rheolwr Hafod y Llan, fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol,
gipolwg difyr ar y canlyniadau posibl o ran ffermio a chadwraeth wrth i ni agosáu at adael yr
UE.

Snowdonia_Soc CONF - LORES 53Apeliodd y Fonesig Fiona Reynolds, awdur The Fight for Beauty, am osod harddwch yn ôl ar yr
agenda, am eiriol dros werth cynhenid byd natur a thirlun, a sicrhau potensial llawn ein Parciau
Cenedlaethol i bawb.

Pwysleisiodd Helen Pye o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mor bwysig yw hi fod cyrff yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau sy’n prinhau;
rhoddodd gydnabyddiaeth hefyd i gyfraniad sylweddol Cymdeithas Eryri i brojectau fel Partneriaeth Eryri.
Snowdonia_Soc CONF - LORES 30
Canolbwyntiodd Iolo Williams, y naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu adnabyddus o Gymru, ar yr angen i fod yn eofn yn ein huchelgais dros fywyd gwyllt Eryri – rhoi’r ‘eryr’ yn ôl yn Eryri. Roedd yn argyhoeddedig fod rhywogaethau poblogaidd yn gallu rhoi hwb sylweddol i gadwraeth.

Pwysleisiodd teulu o bedwar o Eryri – Gill, John, Nellie a Lily Cousins – beth oedd cael eu magu yn y Parc Cenedlaethol yn ei olygu iddyn nhw.

I gloi’r Gynhadledd, bu’r siaradwyr yn cymryd rhan mewn trafodaeth fywiog ac atebwyd rhai cwestiynau digon anodd a roddwyd gerbron gan y gynulleidfa niferus.

Daeth y diwrnod i ben gyda Chinio’r Gynhadledd ar thema Gymreig yn llyfrgell  anesyddol hyfryd y Plas â’i baneli pren, gyda chwis heriol i ddilyn. Derbyniodd enillwyr y cwis gratiad o
gwrw lleol o Wild Horse Brewing Company.

Trefnwyd nifer o deithiau cerdded â themâu yn yr ardal leol ar fore Sul i’r sawl oedd wedi aros dros nos er mwyn arddangos cyfoeth archeolegol, naturiol a diwylliannol Eryri.

Beth ddwedon nhw … Sylwadau mynychwyr y Gynhadledd:

“Diolch yn fawr iawn am benwythnos cofiadwy. Roedd y siaradwyr yn wych”
“Diwrnod pleserus dros ben oedd yn ein hysgogi, diolch yn fawr!”
“Sgyrsiau difyr dros ben gan siaradwyr ysbrydoledig”

 

Comments are closed.