I ddiolch i’n gwirfoddolwyr ymroddedig, bydd Cymdeithas Eryri, mewn partneriaeth â phobl broffesiynol leol, yn rhedeg amrywiaeth o weithdai a chyrsiau hyfforddiant ynghylch hanes naturiol.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gynnal Cwrs Cyflwyniad i Adnabod Cennau. Dyma sylwadau un o’r gwirfoddolwyr rheolaidd.
“Ar 17 Mawrth, mynychais gwrs adnabod cennau yng Nghanolfan Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri a leolir ym Mhlas Tan y Bwlch ger Penrhyndeudraeth. Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu gan Gymdeithas Eryri, ar gyfer unrhyw un oedd yn dymuno gwella’i wybodaeth o fyd hynod ac unigryw cennau.
Tracey Lovering o Plantlife Cymru oedd yn arwain y cwrs un diwrnod, ac roedd yn cynnwys sgwrs ragarweiniol wedi’i hategu gan gasgliad hyfryd o luniau yn dangos y mathau o gennau a welir yng Ngogledd Cymru a’u nodweddion. Un ffaith allweddol o’r cyflwyniad – o ran ei maint, Cymru sydd â’r amrywiaeth uchaf o rywogaethau cennau yn y byd.
Roedd angen dod yn gyfarwydd â llawer o dermau botaneg newydd, sy’n disgrifio’r gwahanol fathau o gennau, a’u dulliau amrywiol o atgynhyrchu. Roedd y cyfan yn hynod ddiddorol i mi ac i fynychwyr eraill y cwrs, ac ar ôl cinio, fe aethom ni o amgylch coetiroedd Plas Tan y Bwlch gan ddefnyddio chwyddwydrau i chwilio am rywfaint o gennau i’w hadnabod yn y fan a’r lle.
Cafwyd cymorth amhrisiadwy gan Tracey i amlygu’r enghreifftiau da y gallai’r sawl sydd ddim yn arbenigwyr eu methu’n rhwydd. Cefais fy rhyfeddu pan gefais i gyfle i syllu’n fanwl, ac roeddwn i wrth fy modd yn defnyddio chwyddwydr i chwyhau a datgelu byd microsgopig na wyddwn i amdano’n flaenorol. Y profiad gorau oedd cyfuno’r gwydr llygaid 15x â chamera fy ffôn, a ganiataodd i mi gofnodi rhywfaint o harddwch ac amrywiaeth y cennau. Rwyf i bellach wedi dotio ar y grefft, ac yn gobeithio cyfranogi yn ‘CENNAD’, y brentisiaeth cenneg a drefnir gan Plantlife.
Diolch i Phil Layton am rannu ei brofiad a’i ffotograffau trawiadol, ac i Tracey Lovering am gynnig cipolwg gwirioneddol graff ac ysbrydoledig i Genneg!
A hoffech chi gyfranogi?
Os hoffech chi ddysgu rhagor am genneg, efallai bydd gennych chi ddiddordeb mewn dod yn brentis cenneg! Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gynllun ‘CENNAD’.
Os hoffech chi wella eich sgiliau adnabod, neu ddysgu rhagor am fflora a ffawna Eryri, trowch at y dudalen Digwyddiadau neu e-bostiwch bethan@snowdonia-society.org.uk i gael rhagor o wybodaeth!