Oriau: 30 awr yr wythnos tymor penodol hyd ddiwedd Mai 2022. Potensial ar gyfer ymestyn y cytundeb ar gyfer yr ymgeisydd priodol.
Graddfa tâl: £9.50 yr awr
Lleoliad: Gweithio ledled Eryri gyda rhywfaint o weithio o adref.
Dyddiad cau’r cais: 09:00, dydd Mercher 17 Tachwedd 2021
Dyddiad cyfweliad: Dydd Mawrth 23 Tachwedd 2021
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosib
Disgrifiad swydd:
Os ydych yn dymuno helpu i warchod yr amgylchedd, efallai mai dyma’r swydd i chi.
Byddwch yn magu ystod eang o brofiad a fydd, yn ei dro, yn eich helpu i sicrhau cynnydd yn y sector amgylcheddol.
Byddwch yn:
- datblygu medrau cadwraeth awyr agored ymarferol
- cydweithio gydag ystod o gyrff sy’n bartneriaid
- cynllunio ac yn arwain dyddiau gwaith i wirfoddolwyr
- cyfrannu at brojectau sy’n gwarchod ac yn gwella Eryri
- cwblhau hyfforddiant achrededig
- helpu gyda meysydd eraill o waith, gweithgareddau a digwyddiadau Cymdeithas Eryri
Hanfodol
- Trwydded yrru lân a mynediad at gerbyd, wedi ei yswirio ar gyfer ei ddefnyddio ar gyfer eich gwaith.
- Rydym yn chwilio am siaradwr Cymraeg ar gyfer y swydd hon sy’n ymwneud â’r cyhoedd.
- Diddordeb byw mewn cadwraeth/yr amgylchedd/Eryri
- Yn gallu ysgogi eich hun, yn ymrwymedig, yn drefnus ac yn ddibynnol
- Yn gyfathrebwr da
- Mae angen hyblygrwydd oherwydd cynhelir digwyddiadau ar benwythnosau yn ogystal â dyddiau’r wythnos, ac efallai y bydd angen rhywfaint o waith gyda’r nos. Fodd bynnag, mae’r hyblygrwydd hwn yn cael ei gydnabod, a chyn belled â bod anghenion y Gymdeithas yn cael eu hateb, byddwn yn eich cefnogi i gynllunio eich gwaith o amgylch ymrwymiadau eraill.
Buddion gweithio i Gymdeithas Eryri – rydym yn cynnig:
- Tâl cychwynnol Gwir Gyflog Byw
- Cyfraniad cyflogwr o 6% tuag at bensiwn
- Rydym yn gweithredu gweithio’n hyblyg a diwylliant o ymddiriedaeth.
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc (pro rata)
- Termau wedi eu llunio ar gyfer cyfnod mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu a rhanedig rhwng rhieni, yn unol â hyd gwasanaeth cymwys.
- Rydym yn annog ac yn cefnogi pawb sy’n gyflogedig i chwilio am gyfleoedd ar gyfer datblygiad.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda gyda John Harold ar director@snowdonia-society.org.uk.
Sylwer na allwn dderbyn ceisiadau os nad ydyn nhw wedi eu cwblhau wrth ddefnyddio ein Ffurflen Gais Safonol.