Cyfle i archebu lle yn Wynebu’r Dyfodol: Cynhadledd a CBC Cymdeithas Eryri, 13-15 Hydref 2017
Ymunwch â ni i gyfranogi yn y gynhadledd amserol a phwysig hon ar benwythnos 13-15 Hydref 2017 ym Mhlas Tan y Bwlch, yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. I weld rhaglen drafft y penwythnos, cliciwch yma.
Daliwch sylw: mae nifer y llefydd sydd ar gael yn gyfyngedig, a derbynnir archebion ar sail ‘cyntaf i’r felin’ gan aelodau Cymdeithas Eryri.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prynu Pecyn Penwythnos Llawn ar gyfer pob gweithgaredd, bwyd a llety am y penwythnos cyfan – o ddydd Gwener i ddydd Sul – e-bostiwch Claire: claire@snowdonia-society.org.uk
I gofrestru am elfennau ar wahân (e.e Dydd Sadwrn yn unig neu un noson o lety), dilynnwch y camau isod:
Cam 1: Archebwch le yn y CBC a’r Gynhadledd, a bwyd & gweithgareddau y penwythnos
Cofrestrwch ar-lein i gael lle yn y Gynhadledd a gweithgarwch cysylltiedig yma gan ddefnyddio’r cyfrinair canlynol: CESS2017
Cam 2: Archebwch le i aros ym Mhlas Tan y Bwlch:
Rhaid i lety ym Mhlas Tan y Blwch gael ei archebu ar wahân trwy gysylltu â Claire, ein Cydlynydd Digwyddiadau.
Ceir amrywiaeth o ystafelloedd ym Mhlas Tan y Bwlch, a gellir eu cynnig fel ystafelloedd sengl/i ddau/dwbl/i nifer o bobl (hyd at bump mewn un ystafell). Mae’r ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n gyfforddus ac wedi’u carpedu’n llawn, ac mae ganddynt wres canolog, basnau ymolchi a socedi i ddefnyddio eillwyr trydan. Mae cyfleusterau en-suite ar gael mewn 25 ystafell, ac mae toiledau, cawodydd ac ystafelloedd ymolchi wrth ymyl yr ystafelloedd eraill.
Lleolir tair o’r ystafelloedd gwely en-suite ar y llawer gwaelod, ac maent yn cynnig mynediad rhwydd; mae un yn cynnwys ystafell ymolchi sydd wedi’i chynllunio’n arbennig i’w defnyddio gan westeion mewn cadair olwyn. Nodwch a oes arnoch chi angen yr ystafell hon.
Archebwch nawr:
I archebu lle i aros ym Mhlas Tan y Bwlch am y penwythnos, e-bostiwch yr wybodaeth ganlynol at Claire:
- Pryd fyddwch chi’n cyrraedd
- Pryd fyddwch chi’n gadael
- Nifer y gwesteion
- Math o ystafell (sengl/dwbl/i ddau)
- Ystafell ymolchi (en-suite/a rennir)
- Unrhyw ofynion arbennig
Daliwch sylw: dyrennir yr ystafelloedd i westeion ar sail ‘cyntaf i’r felin’, ac mae taliad trwy drosglwyddiad ar-lein neu siec o fewn 7 diwrnod yn ofynnol er mwyn cadarnhau eich archeb. Os caiff archebion eu canslo hyd at wythnos cyn y digwyddiad, ad-delir y gost yn llawn. Ni fyddwn yn gallu ad-dalu unrhyw archebion wedi hanner nos ar ddydd Gwener 6 Hydref.
Rhestr o brisiau’r llety:
Pecyn Penwythnos Llawn:
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prynu Pecyn Penwythnos Llawn ar gyfer y digwyddiad (yn cynnwys llety G&B ym Mhlas Tan y Bwlch ar y Nos Wener a’r Nos Sadwrn, yr holl brydau bwyd o’r swper ar y Nos Wener hyd at ginio ar y Dydd Sul, a chyfle i gyfranogi yn holl elfennau rhaglen y penwythnos), e-bostiwch Claire: claire@snowdonia-society.org.uk
Prisiau Pecyn Penwythnos Llawn:
Os oes gennych unrhyw ymholiad, ffoniwch Claire ar 01286 685498.