Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau
Os oes gennych brofiad o reoli prosiectau cymunedol a gweithio gyda phobl ifanc, mae hwn yn gyfle arbennig i helpu i amddiffyn rhan eiconig o dirwedd Cymru.
Project 5-mlynedd sy’n dod ag ystod eang o gyrff ynghyd yw Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau.
Fel y Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, byddwch yn codi ymwybyddiaeth o’r Cynllun CLP gyda chymunedau lleol ac yn helpu i greu mentrau a arweinir gan y gymuned a fydd yn cyfrannu at amcanion y Cynllun.
Yn benodol, byddwch yn cefnogi gweithredu gweithgareddau lles ac addysg wedi’u targedu i annog pobl i ddysgu am bwysigrwydd tirwedd y Carneddau a’r rôl y gallant ei chwarae wrth ddiogelu ei dyfodol
Dyddiad cau: 10.00yb, 17.04.2020
Mae Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau hefyd yn recriwtio:
- Cynorthwy-ydd Gweinyddol rhan-amser (16 awr y wythnos)
- Swyddog Cyfathrebu a Dehongli
- Swyddog Cefnogi (Cyllid a Chontractau)
Ceir mwy o wybodaeth am bob swydd yma:
https://gyrfa.eryri.llyw.cymru/