Mae Cymdeithas Eryri’n recriwtio

Cydlynydd Digwyddiadau a Chyhoeddusrwydd

Rhan amser, 22.5 awr yr wythnos. Bydd angen ychydig o weithio hyblyg. 

Contract tymor sefydlog 1 flwyddyn.  Cyfnod prawf 3 mis yn y lle cyntaf.

£19,750 y flwyddyn (pro rata = £11,850 gros)

Mae Cymdeithas Eryri yn elusen gofrestredig sy’n gweithio i ddiogelu, gwella a dathlu Eryri, ei bywyd gwyllt a’i threftadaeth.

Lleolir deiliad y swydd yn Caban, Brynrefail, ger Llanberis. Bydd angen iddo/iddi deithio o amgylch Eryri yn ôl y galw.

Byddwn yn dathlu ein 50 mlwyddiant yn 2017.  I ddathlu’r garreg filltir hon, byddwn yn cynnal rhaglen gyffrous ac amrywiol o ddigwyddiadau a phrosiectau.  Bydd rhywbeth at ddant pawb!  Mae rhai o elfennau’r rhaglen sydd eisoes wedi’u trefnu yn cynnwys teithiau cerdded, sgyrsiau, arddangosfa, cynhadledd, a digwyddiad mawr i wirfoddolwyr. Ychwanegir rhagor maes o law.

Rydym yn dymuno penodi Cydlynydd Digwyddiadau a Chyhoeddusrwydd i ddarparu rhaglen ragorol ac ennyn diddordeb ystod eang o bobl a chymundau â gwaith y Gymdeithas yn ystod y flwyddyn arbennig hon, trwy wneud y canlynol:

 

  • cydlynu’r gwaith o gynllunio rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau
  • cydweithio’n agos â sefydliadau partner y Gymdeithas, ei staff, ei hymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr eraill, i sicrhau fod digwyddiadau yn cael eu cynnal yn effeithlon
  • sicrhau cyhoeddusrwydd effeithiol cyn ac wedi digwyddiadau ar draws ystod eang o gyfryngau
  • recriwtio aelodau a chefnogwyr newydd i Gymdeithas Eryri.

Bydd deiliad y swydd hon yn gweithio’n agos â staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr, a bydd yn atebol i’r Cyfarwyddwr.  Bydd yn cymryd cyfrifoldeb beunyddiol am sicrhau fod y rhaglen yn rhagorol.

Mae’r swydd hon yn swydd ran amser, 22.5 awr yr wythnos. Bydd angen hyblygrwydd o ran diwrnodau gwaith. Bydd angen gweithio ar benwythnosau a gyda’r hwyr, a chaniateir amser o’r gwaith yn lle hynny.

DISGRIFIAD SWYDD

Prif Gyfrifoldebau

  • Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr, y staff a’r ymddiriedolwyr i ddatblygu, ehangu, a phan fo hynny’n briodol, darparu rhaglen o ddigwyddiadau cyhoeddus i nodi 50 mlwyddiant Cymdeithas Eryri.
  • Cynllunio gan roi sylw i’r manylion sy’n angenrheidiol i sicrhau fod bob digwyddiad yn glod i’r Gymdeithas
  • Recriwtio a chynorthwyo arweinwyr a gwirfoddolwyr i gynnal digwyddiadau
  • Cydlynu partneriaid, gwirfoddolwyr ac arweinyddion digwyddiadau i sicrhau fod digwyddiadau’n cael eu rhedeg yn ddidrafferth
  • Gweinyddu’r digwyddiadau, yn cynnwys hysbysebion, archebion, cyfieithiadau, gohebiaeth, Cofnodion Iechyd a Diogelwch, ac asesu risgiau.
  • Defnyddio cyfryngau confensiynol a chymdeithasol i sicrhau ymwybyddiaeth helaeth o’r digwyddiadau, yn lleol ac yn genedlaethol
  • Cynhyrchu a dosbarthu deunyddiau cyhoeddusrwydd
  • Gweithio i sicrhau fod ymdrechion i ennyn diddordeb y cyhoedd trwy ddigwyddiadau yn arwain at recriwtio aelodau newydd i’r Gymdeithas
  • Chwarae rôl yn y strategaeth codi arian
  • Cadw cofnodion ysgrifenedig a ffotograffau o ddigwyddiadau i’w defnyddio ar wefan y Gymdeithas ac yn ei chylchgrawn, mewn cyfryngau confensiynol a chymdeithasol
  • Gwneud defnydd effeithlon o gyllideb fechan
  • Cynorthwyo ag agweddau eraill o waith y Gymdeithas pan fydd angen hynny

MANYLEB PERSON

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn trefnus a rhadlon, yn meddu ar sgiliau cynllunio cryf ac yn rhoi sylw i fanylion.  Byddwch yn gallu canfod a datrys problemau dan bwysau o ran arian ac adnoddau.

Bydd gennych brofiad a gwybodaeth o’r canlynol:-

  • cynllunio rhaglen o ddigwyddiadau, yn cynnwys digwyddiadau ymarferol ac awyr agored
  • defnyddio cyfryngau confensiynol a chymdeithasol at ddibenion cyhoeddusrwydd
  • gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau
  • gweithio gyda gwirfoddolwyr
  • gweithio mewn cymunedau a sefydliadau dwyieithog
  • defnyddio adnoddau cyfyngedig i sicrhau fod prosiectau’n llwyddiannus

Byddwch yn hunangyfeiriedig, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac yn gallu cymell amrywiaeth o bobl i gyfrannu at y broses digwyddiadau.

Mae natur y gwaith yn golygu fod angen i chi gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Felly, anogir siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr hynod fedrus fel ei gilydd i ymgeisio am y swydd hon.

Byddwch yn gallu defnyddio TG yn fedrus ac yn hyderus, yn cynnwys Word/Excel/Office, cyhoeddi eitemau newyddion ar wefannau, Facebook a Twitter.

Mae trwydded yrru gyfredol a cherbyd ag yswiriant defnydd busnes yn hanfodol oherwydd bydd rhywfaint o’r gwaith yn digwydd ar draws Eryri ac efallai bydd angen cludo deunyddiau. Ad-delir milltiredd ac eithrio am deithio i’r swyddfa

SUT I YMGEISIO

I drafod y swydd yn anffurfiol, ffoniwch John Harold ar 01286 685498.

Lawrlwythwch a chwblhewch ein ffurflen gais safonol; neu ffoniwch y swyddfa ar 01286 685498.

E-bostiwch y ffurflen at mary-kate@snowdonia-society.org.uk, neu postiwch y ffurflen at Mary-Kate Jones, Cymdeithas Eryri, Caban, Brynrefail, Gwynedd, LL55 3NR.

Dyddiad cau: 12:00 hanner dydd, 13 Rhagfyr 2016

Hysbysir ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer erbyn: 16 Rhagfyr 2016

Cynhelir cyfweliadau ar:  20 Rhagfyr 2016

Dyddiad cychwyn arfaethedig: Cyn gynted ag y bo modd yn Ionawr 2017

Comments are closed.