Cynllun hydro Cwm Glas: beth sy’n digwydd yn nhirwedd gwylltaf Cymru?

cwm_glas_hydro_snowdonia

Yn ôl yr elusen cadwraeth Cymdeithas Eryri, mae Greenearth Hydro, y cwmni sy’n gyfrifol am gynllun hydro Afon Gennog yn Nant Peris, yn torri amodau eu caniatâd cynllunio ac yn difwyno rhan ddilychwin o dirwedd y Parc Cenedlaethol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri John Harold,

“Beth oedd ar ben y datblygwyr yn gwneud y fath beth?  Ers dros 6 mis, mae tirwedd fynyddig fwyaf dramatig Cymru wedi cael ei difetha gan lein beipiau blastig sy’n ymdroelli i fyny’r llechwedd tuag at gopa Crib y Ddysgl.

“Rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r datblygwyr ar yr amod eu bod yn claddu’r lein beipiau, ond mae eu tiwb plastig enfawr yn dal yn gorwedd yno.

“Ni ddylai’r datblygiad hwn fod wedi cael ei ganiatáu o gwbl – mae Cwm Glas Mawr yn llecyn gwirioneddol odidog ac eiconig lle na ddylid gadael i JCBs dresmasu o gwbl.  A gall unrhyw un weld y byddai claddu’r lein beipiau ar lechwedd mor serth a chreigiog yn golygu posibilrwydd o adael olion parhaol.

“Ond nawr, mae angen i’r datblygwyr naill ai gydymffurfio â’r caniatâd cynllunio neu symud eu sbwriel plastig oddi yno ac adfer cyflwr y llechwedd.  Rydym yn hyderus y gwnaiff Awdurdod y Parc Cenedlaethol weithredu o blaid Eryri a chymryd y camau gweithredu priodol.”

Comments are closed.