Croeso’n ôl i’r dyfodol

Croeso’n ôl i’r dyfodol

Wrth i ymwelwyr ddechrau dychwelyd i Eryri mae angen i ni ganolbwyntio ar sut hoffem roi’r ‘normal newydd’ ar waith.

Ydych chi’n cofio’r penwythnos heulog yna ym mis Mawrth?

Yr un ychydig cyn y clo mawr, pan yr oedd yn ymddangos bod y byd a’r betws wedi dod i’r Wyddfa i ddianc? Gwelwyd y digwyddiadau yna ar y Wyddfa a mannau eraill fel tystiolaeth o’r angen am y clo mawr a roddwyd mewn grym yn syth bin wedyn.

Mae’r cyfnod yna’n ymddangos yn bell yn ôl erbyn hyn, ond mae’n werth bwrw trem yn ôl ar yr hyn a ddigwyddodd. Gwelodd nifer fawr o bobl – mwy nag erioed o’r blaen – Eryri fel rhyddid, fel lle i ddianc. Roedd rhywbeth drwg ar droed, ond roedd y mynydd yn cysuro ac yn cynnig awyr iach a hwb i’r meddwl, y corff a’r ysbryd. Efallai bod y sawl sydd wedi hen arfer â’r Wyddfa yn ystod haf prysur yn pendroni ynglŷn â’r union ddewis o daith, ond rydym i gyd yn deall yr hyn â gynigir gan Eryri, yn enwedig i’r sawl sy’n byw mewn trefi a dinasoedd.

Cychwyn o’r newydd

Dyma ni bellach ar ddechrau diwedd y clo mawr – am rŵan o leiaf. Mae yna gymysgedd o gyffro a phryder ymysg y sawl sy’n gallu gwneud yn fawr o’u rhyddid o’r newydd.

Yn fy mhentref i rydym wedi hen arfer â’r tawelwch. Mae wedi treiddio i fannau a arferai fod yn brysur gyda cheir, teuluoedd, cerddwyr, cŵn a hufen iâ. Mae’r bobl hŷn yma’n cael eu hatgoffa o’u plentyndod, pan nad oedd cymaint o geir na phobl ddiarth o gwmpas. Mae’n naturiol ein bod yn bryderus ynglŷn â dychweliad llu o ymwelwyr, er ein bod yn gwybod bod llanw a thrai pobl yn hwb i’r economi leol. I bawb sy’n byw ac yn gweithio yn Eryri, mae’r gwahanol deimladau yma yn rhywbeth i ni i gyd eu hystyried.

Gan fod llawer o bobl, ond nid pawb, yn gallu teithio i Eryri unwaith eto, mae angen sgwrs newydd arnom am warchod ein tirluniau gwerthfawr. Mae Parciau Cenedlaethol yn bwysig i’r wlad gyfan, ond maen nhw’n gartref ac yn weithle i lawer hefyd. Bydd angen i ni i gyd wneud ein rhan. Bydd angen hefyd i ni barchu a gofalu am y tirlun a byd natur ac, yn bwysicach, gofalu am ein gilydd.

Camau bach, gwahaniaeth mawr

Felly, yn ymarferol, beth allwn ni ei wneud? Mae lleihau ein heffeithiau ni ein hunain yn fan amlwg i gychwyn, o ran sut ydym yn teithio, beth rydym yn ei wneud, ym mhle rydym yn aros, sut ydym yn siopa a sut ydym yn ymddwyn.

  • Cynlluniwch eich taith – paratowch yn ofalus
  • Ceisiwch gyfyngu ar deithio mewn car – ewch i grwydro ar droed neu ar feic
  • Cofiwch osgoi’r mannau prysur – chwiliwch am lecynnau distaw lle gallwch fwynhau’r tawelwch
  • Cadwch eich ci ar dennyn bob amser – ni all da byw na bywyd gwyllt ymdopi gyda chŵn yn rhedeg o gwmpas
  • Ewch ag offer gyda chi pan yn crwydro fel na fyddwch yn brin o unrhyw beth
  • Ewch â phob dim oedd gennych ar eich taith adre’n ôl – pob deunydd lapio, croen ffrwythau, potel ddiod, ayyb
  • Byddwch ddiogel, troediwch yn ysgafn, a byddwch yn garedig.

Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino ar hyn o bryd wrth baratoi am ddychweliad llawer o bobl, ac yn gweithio hefyd i wneud yn fawr o’r sefyllfa.

Dyma gychwyn taith newydd. Mae llawer o bobl yn breuddwydio ac yn gweithio’n ddygn ac yn benderfynol y gall yr hyn a ddaw nesaf fod yn well na’r hyn sydd, i rai ohonom, yn dod i ben. Cam cyntaf yn unig yw lleihau ein heffeithiau negyddol wrth droi’r gobeithion a’r breuddwydion yma’n realiti. Mae ein gwaith, gyda’n partneriaid, yn bwysicach nag erioed o’r blaen.

Un peth pwysig arall allwch chi ei wneud, yr eiliad hon, yw ymaelodi efo ni, neu gyfrannu i gefnogi ein gwaith. Mae’n cymryd dau funud a chlic neu ddau i helpu i wneud gwahaniaeth mawr, drwy roi grym a chefnogaeth i’r rhai sydd, drwy gyfrwng eu gwaith neu wrth wirfoddoli, yn helpu i warchod Eryri. Gallwch ymaelodi neu gefnogi yma a chyfrannu i gefnogi ein gwaith yma.

Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau y byddwn, wrth groesawu pobl yn ôl i Eryri, yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel a pharchus, gyda gwerthfawrogiad o’r newydd a golwg ar y dyfodol.

 

Comments are closed.